Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio wedi i olwg ollwng i borthladd Aberystwyth.

Maen nhw’n credu fod yr olew wedi gollwng drwy’r system garthffosiaeth, ond mae bellach wedi ei atal ac maen nhw’n dweud nad oes bygythiad i’r amgylchedd.

Mae Cyngor Ceredigion wedi rhoi gwybod i bobol sy’n byw gerllaw am yr olew. Roedd tua 50 galwyn ar wyneb y dŵr.

Daeth i’r amlwg fore dydd Sadwrn ond wedi gwasgaru yn raddol.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod oglau annymunol oedd yn debygol o effeithio ar bobol oedd yn aros ar eu cychod yn y marina.

Dylai unrhyw un sy’n dioddef o broblemau iechyd gysylltu â’u Meddyg Teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.