Prifysgol Aberystwyth
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd gyntaf ym Mhrydain i ddatblygwyr Apps ar gyfer yr iPhone a’r iPad.
Mae disgwyl i fwy na 170 o gynadleddwyr i fynychu’r digwyddiad tri diwrnod yn Aberystwyth, fydd yn cael ei gynnal rhwng 7 a 9 Medi.

Trefnydd iOS DEV UK yw’r Athro Chris Price o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a datblygwr Apps ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

Dywedodd ei fod wedi cael cryn ddiddordeb yn rhyngwladol a bydd datblygwyr o Wlad Belg, Sweden, y Swistir, Israel, y Ffindir, yr Iseldiroedd, Iwerddon a’r Unol Daleithiau yn teithio i’r gynhadledd.

Gwerthodd cwmni Apple mwy na gwerth $2 Biliwn o Apps y llynedd, ac mae rhai yn rhagweld y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu i rhwng $15 a $38 biliwn erbyn 2015.

“Pan lansiodd Apple eu Siop App iPhone ym 1998, dechreuwyd chwyldro mewn ffonau symudol,” meddai Chris Price.

“Cyn y dyddiad hwnnw, ychydig iawn o bobl oedd yn disgwyl i’w ffôn allu gwneud unrhyw beth ar wahân i alwadau ffôn, anfon negeseuon testun neu efallai bori’r We.

“Llynedd gwerthodd Apple werth dros $2 biliwn o Apps. Rydyn ni bellach mewn sefyllfa lle bydd dros hanner y ffonau a werthir yn UDA eleni yn ffonau smart – yn gallu eich helpu i gynllunio eich priodas, dod o hyd i’ch ffordd yn eich car, dewis ac archebu gwesty neu dŷ bwyta, gwylio’ch pwysau, cadw dyddiadur a miloedd o bethau defnyddiol eraill.

“Mae’r DU wedi bod yn cyfrannu at y diwydiant hwn gyda niferoedd iach o Apps yn cael eu creu a’u gwerthu. Nod y gynhadledd yw dod â phobl o’r DU sy’n ceisio c creu’r chwyldro at ei gilydd, gan rannu eu profiadau i’n helpu ni i fod yn fwy cystadleuol wrth adeiladu Apps i newid y byd.”

Ymysg y siaradwyr bydd Dave Addey, Rheolwr Gyfarwyddwr Agant Limited, datblygwr yr App llwyddiannus ar gyfer amserau trenau yn y Deyrnas Gyfunol, Alasdair Allan, awdur Learning iPhone Programming a Programming iPhone Sensors o O’Reilly Media, a Dave Wiskus, Prif Swyddog Credgiol Black Pixel o’r Unol Daleithiau, un o’r siopau dylunio a datblygu iOS mwyaf blaenllaw yn y byd.
Bydd cyfle hefyd i glywed y ddau ddatblygwr ifanc Max and Josh Scott-Slade sydd wedi sefydlu JohnnyTwoShoes, a ysgrifennodd y gêm morladron llwyddiannus “Plunderland”.

Bydd y datblygwyr hefyd yn cael cyfle i fwrw pleidlais dros yr Apps gorau yn eu barn nhw. Categorïau yn cynnwys: App Gem Gorau, App Hamdden Gorau, App Busnes/Cynhyrchiant Gorau, App Addysg Gorau, App Cyflwyno Gwybodaeth Gorau, App Datblygu Apps Gorau, Rhaglen pen ddesg Datblygu Apps Gorau ar App Rhwydweithio Cymdeithasol Gorau. Bydd y pleidleisio yn digwydd fore Iau 8 Medi am 10.00 o’r gloch.