Mae dringwr profiadol wedi marw ar ôl disgyn o glogwyn i mewn i’r môr yn Sir Benfro.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i draeth Barafundle yng Nghei’r Stagbwll am 1.36pm ddoe, ar ôl clywed fod dynes wedi disgyn o’r clogwyn yno.

Abseiliodd ei phartner i lawr y clogwyn a nofio â hi at draeth cyfagos.

Aethpwyd a’r ddau mewn hofrennydd Sea King i Ysbyty Withybush, Hwlffordd ond fe fuodd y ddynes farw o’i hanafiadau.

Dioddefodd ei phartner fân anafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Sir Benfro fod y ddau yn lleol ac yn brofiadol iawn wrth ddringo ‘r clogwyni.

Roedd criw’r bad achub wedi ceisio adfywio’r ddynes cyn iddi gael ei hedfan i Hwlffordd.