Mae’r gwasanaethau brys yn ymchwilio wedi i ambiwlans a char wrthdaro ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr.

Cafodd un o’r dynion yn y car ei anafu ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A496 am 5.45pm.

Cafodd dau o griw’r ambiwlans driniaeth feddygol yn y fan a’r lle.

Nid yw’n amlwg a oedd yr ambiwlans ar alwad brys ac a oedd yn cario claf.

Cafodd criwiau tân o Blaenau Ffestiniog a Porthmadog eu galw.