Iain Hodgins
Ni fydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn bodoli mewn 50 mlynedd onibai fod Cristnogion Cymreig yn gwneud mwy i adeiladu perthynas gyda phobl eraill, rhybuddia’r Llywydd heno.
Wrth i’r Eglwys ddathlu daucanmlwyddiant ordeinio ei gweinidogion cyntaf, bydd y Parchedig Iain Hodgins yn dadlau fod angen i aelodau eglwysi ddal ar bob cyfle os yw’r Eglwys am oroesi.
Yn ei araith ymadawol fel Llywydd yng Nghymanfa Gyffredinol yr Eglwys yn Llanbedr Pont Steffan, bydd Iain Hodgins yn tanlinellu’r angen i siarad mewn ffordd sensitif er mwyn osgoi gelyniaethu pobl sydd ddim yn grefyddol.
“Weithiau, fel Cristnogion, mae ein geiriau’n troi pobl i ffwrdd oddi wrth yr Achubwr,” meddai Iain Hodgins.
“Gallwn fod yn anhynaws, fel yr oedd y disgyblion pan ddaeth y mamau â phlant ifanc at yr Iesu. Mae ein geiriau a’r ffordd rydym yn eu dweud yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr pan ddaw i ni gyfle i siarad dros yr Iesu.”
Wedi ymweld â merch eglwys Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Synod Mizoram Eglwys Bresbyteraidd India, yn gynharach eleni, dywedodd ei fod hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gweddi.
“Os yw plant ein maes cenhadol yn gweddïo drosom ni yng Nghymru, oni ddylai’r Cyfarfod Gweddi a’n profiad o weddi fod yn llawer pwysicach? Ac eto, faint o gapeli sy’n cynnal dim ond un cyfarfod, y gwasanaeth ar y Sul, o un pen yr wythnos i’r llall?” meddai.
Olynydd Iain Hodgins yng nghadair y Llywydd yw’r Parchedig Robert O. Roberts, Morfa Nefyn.
Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru tua 28,000 o aelodau mewn 650 o eglwysi, yn ogystal â chysylltiadau ag eglwysi dramor. Ei hamcan yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.