Stephen Jones
Bydd o leiaf tri o sêr rygbi Cymru yn ymuno â Victor Matfield a Danny Cipriani wrth i’r Barbariaid herio Awstralia yn Twickenham ar 26 Tachwedd eleni.

Bydd Jamie Roberts a Stephen Jones ymysg y cefnwyr a Ryan Jones ymysg y blaenwyr. Dyma fydd y tro cyntaf i Stephen Jones chwarae i’r Barbariaid er bod ganddo dros 100 cap i Gymru.

Dyw’r sgwad gyfan heb ei gadarnhau eto, ond bydd y cefnwyr hefyd yn cynnwys Sonny Bill Williams o’r Crysau Duon a cyn-gapten Awstralia, Stirling Mortlock.

Bydd Keven Mealamu o Seland Newydd yn chwarae ymysg y blaenwyr.

Bydd Cymru hefyd yn chwarae yn erbyn Awstralia ar y dydd Sadwrn canlynol, 3 Rhagfyr, yn Stadiwm y Mileniwm.

Roedd Jamie Roberts a Victor Matfield yn rhan o’r tîm faeddodd Seland Newydd yn yr un stadiwm yn 2009.

“Mae ein gemau blynyddol yn erbyn De Affrica, Seland Newydd, ac, y flwyddyn yma, Awstralia wedi datblygu yn rhan bwysig o’r calendr chwaraeon,” meddai John Spencer, cadeirydd y Barbariaid.

“Fe fydd yn siŵr o ddenu llawer iawn o ddiddordeb eleni gan na fydd yna unrhyw gemau eraill yn cael eu chwarae cyn y Nadolig yn Twickenham.

“Rydyn ni eisoes wedi enwi sawl enw mawr yn y sgwad ac yn hyderus y bydd y 22 terfynol yn cynnwys rhagor o’r enwau fydd yn serennu yn Seland Newydd dros yr wythnosau nesaf.”