Daethpwyd o hyd i gorff dyn ym mhorthladd gogleddol Llanelli.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth tân eu galw i ardal ger Y Ganolfan Ddarganfod tua 9am bore ddoe ar ôl i ddyn ifanc gael ei weld yn y dŵr.
Daethpwyd o hyd i gorff am 1.30pm ar ôl oriau o chwilio.
Dywedodd y gwasanaeth tân a gwylwyr y glannau Abertawe eu bod nhw wedi mynd yno ond ei fod bellach “yn fater i’r heddlu”.
Ychwanegodd llygaid dystion eu bod nhw wedi gweld plymwyr yr heddlu yn chwilio am y corff.
Dyw hi ddim yn amlwg sut yr aeth yn dynn i’r dŵr, ond yn ôl ffynonellau lleol roedd “rhwng 17 a 20 oed” ac yng nghwmni cyfeillion cyn mynd i nofio.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys na fydden nhw’n cynnig sylw nes bod teulu’r dyn wedi cael gwybod. Dydyn nhw ddim yn ystyried y farwolaeth yn un amheus.