Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn edrych am therapydd tylino er mwyn lleddfu’r straen sydd ar ei weithwyr.

Mae hysbyseb y swydd yn dweud fod y Llywodraeth yn gobeithio darparu therapi yn ogystal â gwasanaethau cynghori ac iechyd ar gyfer eu staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth, sy’n cyflogi tua 5,500 o weithwyr mewn naw swyddfa, eu bod nhw’n “ymroddedig” i iechyd a lles eu staff.

Ond mynnodd na fyddai arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio er mwyn talu am y driniaeth.

“Rydym am barhau i ddarparu mynediad i staff i therapïau fydd yn cyd-fynd â’n gwasanaethau iechyd presennol a chynghori, ond rydym yn pwysleisio fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan y gweithwyr eu hunain,” meddai.

Mae sawl busnes preifat eisoes yn darparu gwasanaethau o’r fath ar gyfer eu gweithwyr, gan gynnwys cwmni yswiriant Admiral yng Nghaerdydd.

Maen nhw’n darparu therapi chwaraeon am ddim ac yn darparu ffrwythau am ddim ar gyfer eu gweithwyr.