Steve Morisn - gôl gyntaf i Gymru heno
Cymru 2 – 1 Montenegro
Mae Cymru o’r diwedd wedi ennill eu gêm gystadleuol gyntaf dan reolaeth Gary Speed, gan guro Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.
Sgoriodd Steve Morison o Norwich ei gôl ryngwladol gyntaf i roi Cymru ar y blaen o gôl i ddim ar yr hanner wedi gwaith da gan Craig Bellamy a David Vaughan ar yr asgell chwith.
Yna, bum munud wedi’r hanner fe sgoriodd y capten Aaron Ramsey wedi rhediad Gareth Bale ar yr asgell dde.
Roedd mwy o densiwn i gefnogwyr Cymru wedi i Jovetic sgorio gydag ergyd bwerus ar ôl 71 munud.
Er bod y fuddugoliaeth yn nodweddiadol iawn i Speed a Chymru, Lloegr sydd wedi manteisio fwyaf o’r canlyniad gan agor bwlch o dri phwynt rhyngddyn nhw a Montenegro ar frig y grŵp.
Yn anffodus i Gymru, bydd Bellamy a Vaughan yn methu’r gêm nesaf yn erbyn Lloegr ar ôl i’r ddau weld carden felen heno gan olygu gwaharddiad.