O flaen gêm fawr y penwythnos oddi cartref yn erbyn Llanelli yfory, dywed rheolwr y Seintiau Newydd ei fod yn rhagweld tymor rhyfedd gyda’r prif glybiau i gyd yn colli eu siâr o gêmau.
“Fe fydd hi’n gêm anodd i ni, dwi’n siŵr,” meddai Mike Davies. “Mae hi wastad yn gystadleuol oherwydd rydym ni’n gyfarwydd gyda’n gilydd.”
“Mae ‘Leggy’ [Andy Legg] yn reolwr da. Rydym ni’n gwybod pa fath o dîm ydyn nhw, ac maen nhw’n ein hadnabod ni hefyd.”
Er hynny, teimla Davies na fydd canlyniad y gêm yma’n arwyddocaol wrth benderfynu safle’r un o’r timau yn y gynghrair y flwyddyn yma.
“Mae hi’n gêm bwysig wrth gwrs, oherwydd mae Llanelli yn un o’r timau gorau yn y gynghrair. Maen nhw wastad yn herio ar frig y tabl.
“Ond mae hi mor gynnar yn y tymor, gwneith y canlyniad yma ddim gwahaniaeth mewn gwirionedd. Bydd pob un tîm yn colli gêmau’r tymor hwn. Mae hi’n mynd i fod yn dymor rhyfedd iawn dw i’n meddwl.”
Mae Mike Davies yn wyliadwrus o gymryd unrhyw beth yn ganiataol. “Rhaid i ni beidio meddwl yn rhy bell ymlaen. Canolbwyntio ar gael y tri phwynt yw’r flaenoriaeth i ni.”
Yn ôl Monro Walters, sy’n gefnogwr Llanelli brwd, mae’n bosib mai’r Seintiau Newydd sydd â’r mwya’ o fomentwm ar drothwy’r ornest ar barc Stebonheath, yn dilyn eu buddugoliaeth y penwythnos diwethaf yn erbyn Prestatyn o 2-1.
Ond cyfaddefa’r rheolwr nad yw ei dîm wedi perfformio hyd gorau eu gallu hyd yn hyn y tymor hwn.
“Dw i’n hapus efo’r fuddugoliaeth, yn amlwg,” meddai Mike Davie. “Fe wnaethon ni greu digon o gyfleoedd, ond dydyn ni ddim wedi chwarae ein gorau o gwbl y tymor hwn eto.
“Ond cyn belled ein bod ni’n gwella, ac yn dal i ennill gêmau, yna alla i ddim cwyno’n ormodol. Mae ymdrech ac ysbryd yr hogiau i gyd yn wych. Mae pawb yn gweithio’n galed iawn.
“Roedd yna ddigon o bethau positif i gymryd o’r gêm, ond y tri phwynt sydd bwysicaf wrth gwrs.”
Yr un peth sy’n sicr yn ôl Mike Davies yw y bydd rhaid i’w dîm chwarae ar eu gorau i ennill yfory. “Rhaid chwarae eich gorau i ennill pob gêm y dyddiau yma. Mae hi’n gynghrair mor gystadleuol.”
Fel Llanelli, mae gan y Seintiau Newydd garfan holliach ar gyfer y gêm yfory, heblaw am yr asgellwr Chris Williams “sydd ddim ar gael.” Mae’r ymosodwr Chris Sharp, gynt o Fangor, hefyd wedi ymadael â’r clwb wedi i AFC Telford ei arwyddo am ffi sy’n record i’r clwb.
Darlledir y gêm yfory yn fyw ar Sgorio, S4C, a’r gic gyntaf am 3.45 y prynhawn.
Guto Dafydd