Andy Legg yw rheolwr Llanelli
Llanelli sy’n croesawu’r Seintiau Newydd i Barc Stebonheath ar gyfer gêm fawr y penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae gan y ddau glwb yr un record yn y gynghrair hyd yn hyn, wedi ennill un, colli un, a chael gêm gyfartal yr un hefyd. Er bod ganddyn nhw’r un nifer o bwyntiau, mae Llanelli dri safle yn uwch na’r Seintiau am eu bod wedi sgorio mwy o goliau.
Felly bydd y ddau glwb yn hynod awyddus i gipio’r pwyntiau yfory yn erbyn un o’u prif wrthwynebwyr, ac er mwyn cael cau’r bwlch ag agosáu at yr arweinwyr ar frig y tabl.
Dim ond pwynt lwyddodd Llanelli i’w ennill yn erbyn Airbus oddi cartref yr wythnos ddiwethaf, ond mae rheolwr Llanelli yn ddidwyll wrth ddadansoddi’r perfformiad.
“Wrth gwrs fe ddylem ni fod wedi ennill y gêm honno o ystyried y cyfleoedd a gawsom. Roedd yna nifer o gyfleoedd gwych wnaethom ni ddim manteisio arnyn nhw,” meddai Andy Legg.
“Ond yn y pen draw, fe allwn ni fod wedi colli’r gêm hefyd oherwydd daeth Airbus yn agos i sgorio. Felly, dw i’n amlwg wedi siomi, ond mae’n rhaid ystyried y ddwy ochr.”
Mae nifer o agweddau positif i’w cymryd o’r perfformiad yn ôl Legg. “Dw i’n falch ein bod ni wedi creu gymaint o gyfleoedd, ac fe ddaw’r goliau os wnawn ni ddal ati i greu. Roedd yr amddiffyn i’w weld yn gadarn ac roedd y lefelau egni a’r ymrwymiad gan bawb yn wych. Felly dw i’n hapus efo hynny.”
Mae Legg yn cydnabod y bydd hi’n gêm anodd i’w dîm yfory yn erbyn y Seintiau: “Maen nhw’n un o’r timau sy’n chwarae’r pêl-droed gorau yn y gynghrair,” meddai.
“Maen nhw wedi dominyddu’r gynghrair dros y blynyddoedd ac mae’n gemau ni o hyd yn galed a chystadleuol, a dw i’n sicr fydd hon ddim gwahanol chwaith.”
Er hynny, mae Legg yn mynnu nad yw hon yn bwysicach nag unrhyw gêm arall maen nhw’n mynd i’w chwarae’r tymor hwn.
“Yndi, mae hi’n bwysig…ond dim ots pwy fyddwn ni’n chwarae; Aberystwyth, Afan Lido, TNS, Bangor, yr un gêm yw hi i ni yn y diwedd, ac rydym ni’n brwydro am yr un tri phwynt bob tro. Felly mae hi’n gêm bwysig, ond yr un mor bwysig â’r gêm ddiwethaf a’r un nesaf.
“Does dim gêmau hawdd yn y gynghrair yma o gwbl erbyn hyn,” mynna Legg.
“Dwi’n credu y bydd hi’n bosib colli pum neu Chwe gêm y tymor hwn a dal ennill y gynghrair, a byddai hynny erioed wedi digwydd yn y gorffennol.
“Mae cymaint o dimau wedi cryfhau ac i gyd yn mynd amdani’r flwyddyn yma. Mae pobl o hyd yn sôn fod ’na dri neu bedwar clwb mawr sy’n cystadlu ar frig y tabl, ond dw i’n credu fod ’na wyth neu hyd yn oed ddeg o glybiau allai gystadlu’r tymor yma. Maen nhw i gyd yn mynd i fod â’r agwedd y gallen nhw ennill y gynghrair.
“Dydi’r gynghrair ddim fel yr oedd hi’n arfer bod. Allwch chi ddim mynd i unrhyw le a disgwyl ennill. A does neb yn curo timau eraill o bump neu chwe gôl bellach ‘chwaith.”
Mae prif sgoriwr Llanelli, Rhys Griffiths, yn annhebygol iawn o chwarae. “Dydi o heb ymarfer ers pythefnos, felly dwi’n amau fydd o’n ffit,” meddai Legg, “Mae’n golled fawr i ni oherwydd dim ond hanner cyfle mae Rhys ei angen i sgorio.
“Heblaw am hynny, mae gennym ni garfan lawn.”
Darlledir y gêm yfory yn fyw ar Sgorio, S4C, a’r gic gyntaf am 3.45 y prynhawn.
Guto Dafydd