Richie Gray (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Mae’r Alban mewn grŵp sy’n cynnwys Lloegr a’r Ariannin ac fe fydd yn frwydr galed iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Cyrhaeddodd yr Alban rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 2007, felly mae ganddi le awtomatig yng Nghwpan y Byd 2011.
Gwellodd pethau’n sylweddol wrth iddi, ym mis Mehefin 2010, ennill am y tro cyntaf yn hemisffer y de, gan drechu tîm yr Ariannin, a hynny ddwy waith.
Dilynwyd hynny yn yr hydref â buddugoliaeth yn erbyn De Affrica, ond perfformiad siomedig a gafwyd eto eleni ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae’r Alban yn y seithfed safle ar restr IRB.
Safle tebygol: Trydydd mewn grŵp cystadleuol
Y Record
Cyrhaeddodd yr Alban rownd yr wyth olaf ym mhob Cwpan y Byd ond gan golli bob tro yn y rownd honno, ac eithrio yn 1991 pan aeth ymlaen i’r rownd gynderfynol yn erbyn Lloegr.
Daeth yn agos iawn at ennill y gêm honno ond yn y diwedd Lloegr aeth â hi 9-6.
Chwaraewr i’w wylio
Richie Gray
Mae’r cawr 6’9’’ hwn wedi cynrychioli’r Alban ar bob lefel ers iddo chwarae i’r tîm o dan 17 oed.
Er mai 21 oed yn unig yw’r clo hwn o dîm Glasgow, ac er mai dim ond y llynedd yr enillodd ei gap llawn cyntaf, mae wedi profi eisoes y bydd yn un o sêr y tîm rhyngwladol llawn am flynyddoedd i ddod.
Mae’n neidiwr campus yn y llinell ac yn hynod o heini o gwmpas y cae.
Yr Hyfforddwr
Andy Robinson
Penodwyd Andy Robinson ym Mehefin 2009. Pan enillodd Lloegr Gwpan y Byd yn 2003 roedd yn ddirprwy i Clive Woodward, gyda gofal arbennig am y blaenwyr.
Ar ôl i Woodward roi’r gorau iddi, daeth Robinson i’w olynu, yn Hydref 2004. Bu’n hyfforddi Lloegr hyd Tachwedd 2006 pan ymddiswyddodd ar ôl nifer o berfformiadau siomedig gan ei dîm.
Y flwyddyn wedyn daeth yn hyfforddwr clwb Caeredin, gyda chyfrifoldeb hefyd am hyfforddi tîm A yr Alban.
A wyddoch chi?
Pan gafodd yr Alban fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn 1871 yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddwy wlad, sgoriwyd cais yr un ganddyn nhw na chawsant eu caniatáu.
Y rheswm am hynny oedd bod ciciwr y naill dîm a’r llall wedi methu’r trosiad ac yn y dyddiau hynny roedd yn rhaid trosi cais cyn y câi ei ganiatáu.