Mae’r Cymro, Dai Greene, wedi ennill medal aur yn ras y clwydi dros 400m Pencampwriaeth Athletau’r Byd yn Daegu, De Korea.
Gorffennodd y dyn o Lanelli’r ras mewn 48.27 eiliad. Dyma fedal aur cyntaf Prydain yn y gystadleuaeth.
Roedd y Cymro wedi dod yn ail yn y rownd gynderfynol ddydd Mawrth gydag amser o 48.62 eiliad.
Dyma’r tro cyntaf i Brydain ennill medal aur y byd yn y gamp ers David Hemery yn Gemau Olympaidd Dinas Mecsico 1968.
“Roeddwn i ychydig bach yn siomedig â’r amser ond wrth groesi’r glwyd olaf roedd gen i gymaint o fomentwm,” meddai.
“Fe feddyliais i, alla’i ddim gadael i hwn fynd nawr, rhaid i fi ennill.”
Ei gadael hi’n hwyr
Cafodd y ras ei gohirio sawl gwaith. Roedd hi’n hwyr yn cychwyn gan fod rhaid aros i gampau eraill i ddod i ben.
Yna bu’n rhaid dangos cerdyn melyn i’r cyn pencampwr Olympaidd, Angelo Taylor, am oedi’n ormodol cyn setlo i’w floc cychwyn.
Roedd y tensiwn yn amlwg, a’r pwysau’n cynyddu ar y rhedwyr, ond roedd Greene i weld yn barod ar gyfer ras fwyaf ei yrfa.
Serch hynny fe adawodd hi’n hwyr cyn ennill y ras. Roedd y Cymro yn y pedwerydd safle wrth adlamu’r glwyd olaf ond un, ond fe orffennodd yn hynod gryf.
Amserodd ei rediad yn wych wrth frasgamu heibio i’r ffefryn, Javier Culson o Puerto Rico, gyda rhai metrau’n unig yn weddill er mwyn cipio’r fedal aur.
Daeth Culson yn ail i hawlio’r fedal arian, ac L.J. van Zyl, athletwr cyflyma’r byd yn y gamp hon y flwyddyn yma, orffennodd yn drydydd.
Mae Greene wedi curo maes o safon uchel iawn yn Daegu heddiw. Mae Bershawn Jackson yn gyn pencampwr byd, ac fe gafodd Javier Culson fedal arian ym mhencampwriaethau’r byd yn 2009; mae Angelo Taylor wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd ac mae Felix Sanchez wedi dominyddu’r gamp dros y blynyddoedd diweddar.
Fe all Greene ystyried ei hun ymysg y goreuon yn y byd yn y gamp, ac mae ganddo obaith o ennill medal aur yng ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.
“Dwi wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers blynyddoedd. Dwi wedi cael cyfnodau isel, ond roeddwn i o hyd yn credu y gallwn i lwyddo,” meddai.
“Ges i brofiad gwael yn y pencampwriaethau dwy flynedd yn ôl a gorffen yn seithfed. Ond dw i wedi llwyddo i’w gwneud hi rywsut. Dwi mor falch.”
Creda Greene fod ganddo fantais dros y rhedwyr eraill gan nad yw’n teimlo’n nerfus o flaen llaw.
“Roeddwn i’n credu y gallwn i ennill. Dw i’n dda yn delio gyda’r pwysau. Dwi’n credu fy mod i’n delio gyda’r nerfau yn well na rhai o’r lleill,” meddai.
Bydd tîm Prydain yn falch iawn o’i weld yn ennill medal aur, meddai.
“Dw i’n meddwl bydd yr ymateb gan bawb yn y pentref (lle mae’r athletwyr yn aros) yn wych. Rydyn ni wedi bod yn aros am hyn drwy’r wythnos. Roeddwn i’n teimlo fod rhaid i mi ennill yr aur heddiw.”
Mae’r rhedwr 25 oed eisoes yn bencampwr Ewrop a’r Gymanwlad ers y llynedd, ac mae ganddo gyfle i ychwanegu medal arall i’w gasgliad cyn diwedd yr wythnos yn ras cyfnewid 4x400m.
Greene yw’r pumed athletwr Prydeinig i ennill medal yn ystod y pencampwriaethau, ac mae’r canlyniad yn dyrchafu tîm Prydain i’r pedwerydd safle ar y tabl medalau, y tu ôl i’r UDA, Rwsia a Kenya.
Y canlyniad
1 Dai Greene Prydain 48.26
2 Javier Culson Puerto Rico 48.44
3 L.J. van Zyl De Affrica 48.80
4 Felix Sánchez Gweriniaeth Dominica 48.87
5 Cornel Fredericks De Affrica 49.12
6 Bershawn Jackson Yr Unol Daleithiau 49.24
7 Angelo Taylor Yr Unol Daleithiau 49.31
8 Aleksandr Derevyagin Rwsia
Rhagor i ddilyn…