Brendan Rodgers, hyfforddwr Abertawe
Mae Abertawe wedi llwyddo i arwyddo dau amddiffynnwr newydd, sef Fede Bessone a Darnel Situ, ar ddiwrnod olaf y ffenestr trosglwyddiadau ddoe.
Cafodd Bessone ei ryddhau gan Leeds United er mwyn iddo gael dychwelyd i’r Stadiwm Liberty. Treuliodd ddau dymor yno ar ôl i Roberto Martinez ei arwyddo am ddim o Espanyol yn ôl yn 2008.
“Allai ddim egluro pa mor hapus ydw i o gael bod yn ôl yma,” meddai Bessone ar wefan swyddogol y clwb. Mae’r Archentwr 27 oed wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r Elyrch.
Fe lwyddodd Abertawe hefyd i gipio’r amddiffynnwr Ffrengig ifanc, Darnel Situ, ar gytundeb dwy flynedd o Lens.
Mae’r Elyrch wedi cytuno i dalu o leiaf £250,000 i’r clwb o Ffrainc am yr amddiffynnwr canolog sydd wedi cynrychioli ei wlad ar lefel ieuenctid.
Fe all Situ, a dreuliodd gyfnod treial gyda Newcastle United yn ddiweddar, hefyd chwarae yn rôl yr ysgubwr yng nghanol cae.
“Roedd clybiau fel Newcastle a Fulham wedi dangos diddordeb,” meddai Situ, “Ond Abertawe oedd fwyaf awyddus i fy arwyddo, felly dwi’n hapus i gael bod yma.”
Mae’r clwb o Gymru hefyd yn gobeithio arwyddo Rafik Halliche, amddiffynnwr o Fulham, o fewn y 24 awr nesaf cyn belled a bod y gynghrair yn fodlon cadarnhau’r cytundeb.
Dim ond ddwywaith mae’r chwaraewr rhyngwladol o Algeria wedi chwarae i Fulham ers ymuno â nhw yn ôl yn Awst 2010.
Roedd y rheolwr, Brendan Rodgers, eisoes wedi sôn am yr angen i atgyfnerthu’r amddiffyn, yn enwedig wedi’r newydd y bydd Alan Tate yn methu mwyafrif y tymor wedi torri ei goes mewn damwain ar gert golff.
Gyda Tate wedi’i anafu, bydd Bessone yn cystadlu yn erbyn y Cymro, Neil Taylor, i gael chwarae ar ochr chwith yr amddiffyn.
“Pan ddaeth yr alwad gan Abertawe, roeddwn i wedi cynhyrfu,” meddai Bessone.
“Fe es i’n syth i’r car a gyrru i lawr yma oherwydd mae gen i deimlad da am y clwb ac fe wnes i fwynhau fy amser yma yn y gorffennol,” meddai.
Fe enillodd 36 cap â’r Elyrch tri thymor yn ôl cyn ymuno gyda Leeds ar gytundeb tair blynedd ym Mehefin 2010.
Roedd Abertawe hefyd wedi gwneud ymholiadau am amddiffynnwr Watford, Adrian Mariappa, ac am Matthew Bates o Middlesborough.
Caerdydd
Roedd yr Adar Gleision yn llawer llai gweithgar tua diwedd y cyfnod trosglwyddiadau, ond maen nhw wedi cwblhau cytundeb i arwyddo Ben Turner o Ddinas Coventry.
Mae’r amddiffynnwr 23 oed wedi ymuno gyda Chaerdydd ar gontract tair blynedd, ond ni ddatgelwyd maint y ffi.
Wedi pasio profion meddygol a chytuno ar delerau personol gyda’r clwb, fe fu Turner yn ymarfer gyda’r tîm ar ddydd Mercher.
Roedd Mackay yn awyddus i atgyfnerthu’r amddiffyn, ac mae Turner yn chwaraewr amlbwrpas sy’n medru chwarae mewn sawl safle.
Ond fe fethodd Caerdydd a chael gwared ar yr ymosodwr mawr, Jon Parkin, wedi iddo fethu a dod i gytundeb gyda Coventry.
Mae’n annhebygol y bydd Parkin yn cael llawer o gyfle i chwarae yng Nghaerdydd y tymor hwn wedi i Mackay ddod a nifer o ymosodwyr eraill – Earnshaw, Miller, Mason a Gestede – i’r clwb dros yr haf.