Marcus Tincu (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Tîm arall nad oes disgwyl iddyn nhw fynd y tu hwnt i’r grŵp, ond a fydd Rwmania yn gallu hawlio buddugoliaeth eleni?
Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cwpan Gwledydd Ewrop 2008-10, ar ôl chwarae gêmau cymhwyso yn erbyn Sbaen, yr Almaen, Portiwgal, Rwsia a Georgia.
Yna aeth ymlaen i guro Tiwnisia ac Uruguay i benderfynu pwy fyddai’r ugeinfed wlad, a’r un olaf, i gyrraedd rhestr y gwledydd a fyddai’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd 2011.
Safle tebygol: Colli pob gêm
Y Record
Er iddi chwarae yn rowndiau terfynol pob un o’r chwe Chwpan y Byd, ychydig o lwyddiant a gafodd hi.
Dim ond un gêm a enillwyd yn ystod pob un o’r cystadlaethau hynny ac eithrio yng Nghwpan y Byd 2003. Yr adeg honno ni chafodd yr un fuddugoliaeth.
Collodd yn drwm mewn ambell un o’r rowndiau rhagbrofol, er enghraifft, enillodd Awstralia 95-8
yn ei herbyn ac ildiodd 85 pwynt yn erbyn Seland Newydd.
Cafwyd rhai canlyniadau nodedig mewn gêmau cyfeillgar, e.e. maeddu Ffrainc a’r Alban ddechrau’r nawdegau, ond ddeng mlynedd yn ôl collodd 134-0 yn erbyn Lloegr.
Chwaraewr i’w wylio
Marius Tincu
Bachwr 33 oed sy’n chwarae i glwb Perpignan. Bu’n cynrychioli Rwmania ers 2002, ac yng Nghwpan y Byd 2007 chwaraeodd mewn pedair gêm ragbrofol, gan sgorio tri chais, yn erbyn yr Eidal, Portiwgal a’r Crysau Duon.
Yr Hyfforddwr
Steve McDowell
Ymunodd â’r tîm hyfforddi yn 2008 fel trefnydd ffitrwydd ond bellach ef yw’r prif hyfforddwr. Cafodd brofiad cyn hynny o hyfforddi yn Seland Newydd ar lefel clwb a bu’n hyfforddwr amddiffyn tîm Tonga yn 2007.
Enillodd y cynbrop hwn 46 cap gyda’r Crysau Duon ac roedd yn aelod o’r tîm a enillodd Gwpan y Byd yn 1987.
Yr Hanes
Chwaraewyd rygbi gyntaf yn y wlad gan fyfyrwyr a ddychwelodd o Baris gyda phêl rygbi yn 1913 ac yn y man ffurfiwyd 17 o glybiau yn Bucharest.
Chwaraeodd Rwmania ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Unol Daleithiau America yn 1919 ac yna yn 1931 ffurfiwyd Ffederasiwn Rygbi Rwmania.
Yr oedd y gêm ar ei chryfaf yn y wlad yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf pan oedd Rwmania yn un o brif dimau Ewrop. Yr adeg honno maeddodd hi Gymru a Ffrainc ddwywaith yr un, a hefyd yr Alban yn fuan wedi i’r wlad honno ennill y Gamp Lawn yn 1984.
Ond oherwydd dirywiad mawr ym mywyd gwleidyddol ac economaidd y wlad, nid yw rygbi wedi ffynnu yno ers y cyfnod hwnnw.