Pesda Roc
Mae tocynnau i ddau gyngerdd yng ngŵyl gerddorol Pesda Roc wedi “gwerthu allan,” meddai’r trefnydd.

Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer y Nos Sadwrn yn Neuadd Ogwen, a fydd yn cynnwys Maffia Mr Huws Geraint Jarman, Celt, a The Chillingtons.

Hefyd, mae cyngerdd Bob Delyn ar y Nos Wener wedi gwerthu allan, meddai Dilwyn Llwyd, trefnydd Pesda Roc wrth Golwg360.

Dywedodd bod tocynnau i gyngerdd Dafydd Iwan, nos Wener ar gael o hyd yn ogystal â thocynnau i gig Bryn Fon.

Mae’r newyddion yn hwb i’r ŵyl wedi i sawl ŵyl arall, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Gardd Goll a Wa! Bala ei chael hi’n anodd denu’r torfeydd.

“Mae gig Gruff Rhys nos fory hefyd bron iawn wedi gwerthu allan,” meddai Dilwyn Llwyd.

Dywedodd ei fod yn annog pawb oedd sydd eisiau mynd i brynu tocyn gan ei fod yn “annhebygol iawn” y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.

“Dw i wedi trio fy ngorau las i drio gadael i bobl wybod fod tocynnau yn brin,” meddai Dilwyn Llwyd.

Mae gwyl gerddorol Pesda Roc ym Methesda yn dechrau heno ac yn dod i ben ddydd Sul. Mae modd gweld arlwy llawn yr wyl ar galendr Golwg 360.

Does dim angen prynu tocyn i’r Talwrn heno, dim ond talu £5.00 ar y drws.

Nos Wener yn y Clwb Rygbi bydd Yr Ods, Jen Jeniro Sen Segur a Yucatan yn perfformio, a bydd Poket Trez, Wibidi, Dau Cefn, Acid Casuals a Kim de Bills yn perfformio yno ar y nos Sadwrn.

Trefniant talu ar y drws sydd i’r gyngerdd hwnnw hefyd.