Ched Evans
Mae pêl-droediwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug wedi’i gyhuddo o dreisio merch.

Cafodd Ched Evans, sy’n 22 oed, ei arestio wedi’r ymosodiad honedig ar ferch 19 oed mewn gwesty ‘Premier Inn’ yn Rhuddlan ger y Rhyl ar 31 Mai.

Mae disgwyl y bydd Ched Evans, sydd wedi ei gyhuddo ynghyd â Clayton McDonald sy’n chwarae i Port Vale, i bledio’r un ffordd neu’r llall pan fydd yn ailymddangos gerbron y llys ym mis Hydref.

Fe gafodd y ddau eu cyhoeddi ar fechnïaeth.

Roedden nhw wedi ymddangos o flaen llys ynadon Prestatyn ddechrau’r mis.

Un o amodau’r fechnïaeth yw na ddylai’r un o’r ddau fynd i ogledd Cymru os nad oedden nhw’n teithio i wrandawiad llys.

Gwrthodwyd cais gan Ched Evans i gael treulio amser gyda’i deulu yn y Rhyl ar ei ddiwrnod i ffwrdd o’i glwb pêl-droed.