Geraint Thomas
Cyhoeddwyd heddiw mai’r Cymro, Geraint Thomas, fydd yn arwain tîm Sky ar daith Prydain rhwng 11-18 Medi.
Bydd Bradley Wiggins yn absennol o’r tîm gan ei fod yn cystadlu yn nhaith Sbaen ar hyn o bryd.
Dyma fydd y chweched tro i Thomas gystadlu yn nhaith Prydain. Fe orffennodd y seiclwr 25 oed o Gaerdydd yn 6ed ac yn 12fed y ddau dro diwethaf.
Bu Thomas yn rhan o’r tîm Prydeinig enillodd fedal aur Olympaidd yng nghamp y ‘team pursuit’ yn Beijing 2008.
Fe enillodd Thomas ei daith gyntaf proffesiynol ym mis Mai wrth gipio’r goron ar daith Bavaria.
Roedd hefyd yn ddylanwad pwysig ar dîm Sky yn ystod eu hymgyrch ddiweddar yn y Tour de France.
Bu’n arwain ei gyd-aelodau i fuddugoliaeth ar rai cymalau ac fe ddaliodd ei afael ar grys gwyn y seiclwr ifanc gorau o’r diwrnod cyntaf hyd nes seithfed cymal y daith.
Fe fydd ei gyd-aelod yn nhîm Olympaidd Prydain, Ed Clancy, yn cystadlu yn erbyn Geraint yn y daith hon wrth iddo arwain tîm Rapha Condor.