Fe gollodd Morgannwg eu gem CB 40 pelawd olaf o’r tymor yn erbyn yr Unicorns ddoe – tîm rhannol broffesiynol.
Collwyd yr ornest oddi cartref yn Wormsley o wyth rhediad, ond y modd y gwnaethant golli fydd yn peri fwyaf o embaras iddynt.
Roedd y Dreigiau yn edrych yn debygol iawn o gipio’r fuddugoliaeth ar 148-2, gyda 193 rhediad i anelu amdano.
Fe gafodd Alviro Petersen 93 (ddim allan) ac fe gafodd Stewart Walters 60 i Forgannwg.
Ond yna fe gollwyd yr wyth wiced oedd yn weddill wrth i Forgannwg lwyddo i gipio dim ond 36 o rediadau. Cafodd pedwar o’r wicedi hynny eu colli am un rhediad yn unig.