Nathan Cleverly
Bydd Nathan Cleverly, pencampwr pwysau trwm-ysgafn WBO y byd, yn amddiffyn ei deitl am yr ail dro yn erbyn Tony Bellew yn Lerpwl ar 15 Hydref.

Cyhoeddodd yr hyrwyddwr, Frank Warren, y byddai’r paffiwr buddugol yn ennill y cyfle i wynebu’r Americanwr profiadol, Bernard Hopkins, mewn gornest i uno’r beltiau WBC, IBO a WBO

Fe ddaw Nathan Cleverly’n wreiddiol o Gaerffili, ac mae’n 24 oed. Fe fu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd nes y llynedd.

Fe fu’n bencampwr Prydain, y Gymanwlad ac Ewrop cyn iddo lwyddo i gael ei goroni’n bencampwr WBO y byd yn ei bwysau yn ôl ym mis Mai.