Gorsaf niwclear Wylfa
Mae’r grŵp sy’n ymgyrchu yn erbyn Wylfa B wedi croesawu penderfyniad Greenpeace i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth San Steffan.
Mae Greenpeace yn dweud nad ydi Llywodraeth San Steffan wedi cymryd i ystyriaeth oblygiadau trychineb niwclear Fukushima yn Japan wrth iddynt gynllunio gorsafoedd niwclear newydd ar Ynysoedd Prydain.
Mae’r ddogfen 1611 tudalen a gyflwynwyd i’r Uchel Lys ar 26 Awst yn gofyn am Adolygiad Barnwrol ar benderfyniad y Llywodraeth i beidio â chymryd cyngor arbenigol ar oblygiadau trychineb Fukushima, yn dilyn y daeargryn a tsunami yn Japan ym mis Mawrth.
“Mae gan Greenpeace adnoddau ariannol a chyfreithiol ac mae gyda nhw bobl fedrus iawn sy’n gallu mynd a’r maen i’r wal,” meddai Dylan Morgan o Pobol yn Erbyn Wylfa B (PAWB)wrth Golwg360.
‘Her’
“Mae’r achos yn cynnwys her i’r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd am fwrw ymlaen i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol yng Ngorffennaf gan nodi wyth safle ar gyfer gorsafoedd niwclear newydd,” meddai.
“Yn y dyddiau cyntaf wedi trychineb Fukushima, dangosodd cyfathrebu rhwng swyddogion llywodraeth a chwmnïau niwclear nad oedd bwriad i lawn ystyried digwyddiadau trychinebus Fukushima.”
Mae hefyd yn dweud “na chymerodd yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd ystyriaeth o holl beryglon llifogydd i safleoedd niwclear Prydeinig er gwaetha’r dystiolaeth ynglŷn â sut yr effeithiodd llifogydd ar adweithyddion Fukushima Daiichi.”
‘Cynllunio argyfwng’
“Nid yw’r Datganiad Polisi Niwclear Cenedlaethol yn ystyried yn llawn y gwersi o Fukushima am gynllunio argyfwng ar gyfer gollyngiadau ymbelydrol dros gyfnod hir, a’r angen i wagio ardal ac ailgartrefu niferoedd mawr o bobl,” meddai Dylan Morgan.
“Methodd cynllunio argyfwng Japan â chynnig gwarchodaeth gynnar a digonol i ddinasyddion y wlad.”
Eisoes, mae’n pwysleisio bod Greenpeace “wedi llwyddo” gyda dau achos yn yr Uchel Lys yn erbyn llywodraeth Blair.
“Rydyn ni’n hyderus y daw llwyddiant yn yr achos hwn hefyd gan roi terfyn ar gynlluniau niwclear anghyfrifol a dianghenraid llywodraeth Cameron,” meddai Dylan Morgan.