George Osborne, y Canghellor
Mae ffigyrau newydd gyhoeddwyd gan y Trysorlys heddiw yn awgrymu fod y bwlch rhwng gwario cyhoeddus yn y gwledydd Celtaidd a Lloegr ar gynnydd.
Mae’r Alban bellach yn derbyn £1,600 yn fwy y pen gan y wladwriaeth na thrigolion Lloegr, o ganlyniad i Fformiwla Barnett.
Mae trigolion Cymru yn cael £9,829 y pen a phobol Gogledd Iwerddon yn cael £10,706 y pen.
Dim ond £8,588 mae pobol Lloegr yn ei gael o’i gymharu â £10,212 yn yr Alban.
‘Dadl lipa’
Mae Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yng Nghymru bellach wedi galw am gael gwared ar y fformiwla sy’n penderfynu faint o arian cyhoeddus sy’n mynd i bob gwlad.
Cafodd Fformiwla Barnett ei greu gan brif ysgrifennydd y Trysorlys, Joel Barnett, yn 1978.
Maen nhw wedi galw am fformiwla yn seiliedig ar angen ac wedi cael cefnogaeth annisgwyl gan ambell i Aelod Seneddol Ceidwadol yn dilyn cyhoeddi’r ffigyrau heddiw.
“Mae hyn yn gwbl anghywir ac fe fydd yn cythruddo pobol Lloegr,” meddai’r AS Ceidwadol, David Mowat, wrth bapur newydd y Dialy Mail.
“Mae nifer o ASau yn gorfod amddiffyn toriadau amhoblogaidd iawn. Rydyn ni’n gwneud hynny gan ddweud nad oes unrhyw ddewis arall a bod rhaid lleihau’r diffyg ariannol.
“Ond mae’r ddadl honno yn ymddangos braidd yn llipa pan mae’r Glymblaid yn gwastraffu biliynau er mwyn plesio diddordeb personol pobol i’r gogledd o’r ffin.
“Rhaid i ni gyflwyno fformwla sy’n seiliedig ar angen.”
Ychwanegodd Aelod Seneddol Ceidwadol arall, Gordon Henderson, ei fod yn “gwbl anghywir” fod rhai o drethdalwyr Lloegr dalu am bobol yr Alban”.
“Mae ganddyn nhw ystod eang o wasanaethau sydd ddim ar gael i bobol Lloegr, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, llety mewn cartrefi gofal am ddim a ffioedd dysgu is.”