Mae afon yng Nghymru oedd unwaith “yr un mor ddu â glo” bellach yn ddigon glan i bysgota ynddo, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae Afon Taf sy’n llifo o Ferthyr Tudful yn y Cymoedd a drwy Gaerdydd ar restr o’r afonydd yng Nghymru a Lloegr sydd wedi eu gwella fwyaf dros y degawdau diwethaf.

Mae Afon Dyfrdwy sy’n llifo drwy ogledd Cymru hefyd ar y rhestr, sy’n cynnwys yr afonydd Wandle a’r Tafwys yn Llundain, Wear yn Swydd Durham, Stour yn Worcestershire, Darent yng Nghaint, Nar yn Norfolk, a’r Stour yn Dorset.

Cafodd Afon Wandle Prifddinas Lloegr ei alw yn garthffos yn swyddogol yn 1960 ond mae bellach yn cael ei ddefnyddio i bysgota ynddo.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod pob un o’r afonydd wedi dioddef yn sgil hanes diwydiannol yr ardaloedd rheini.

Ond roedden nhw i gyd bellach yn gartref i fywyd gwyllt, ac yn denu cerddwyr a physgotwyr unwaith eto.

Dywedodd yr asiantaeth fod y gwaith wedi ei gyflawni o ganlyniad i gannoedd o brosiectau i warchod cynefin bywyd gwyllt, yn ogystal â rheolau llymach ar lygru afonydd.

“Mae afonydd Prydain yn iachach nag ar unrhyw gyfnod dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae dyfrgwn, eog  a bywyd gwyllt arall yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y chwyldro diwydiannol,” meddai Ian Barker, pennaeth tir a dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd.

“Ond mae yna ragor o waith i’w wneud er mwyn trawsffurfio 9,500 mi;;tir arall o afonydd yng Nghymru a Lloegr.”