Michael Jackson
Mae Janet Jackson wedi cyhoeddi na fydd i’n cymryd rhan mewn cyngerdd yng Nghaerdydd er cof am ei brawd.
Fe fydd y cyngerdd yn cyd-daro ag achos llys y doctor sydd wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Michael Jackson.
Dywedodd Janet Jackson y bydd amseru’r gyngerdd yn ei gwneud yn anodd iawn iddi fod yn rhan ohono.
Mae ei brodyr Jermaine a Randy Jackson eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu cymryd rhan yn y gyngerdd ar 8 Hydref a fydd yn digwydd yn ystod achos llys Dr Conrad Murray.
Mae’r gyngerdd wedi derbyn cefnogaeth gan fam Michael Jackson, Katherine, a’i frodyr a chwiorydd eraill.
Yr achos llys
Bydd achos llys Conrad Murray yn dechrau ar 27 Medi eleni. Mae wedi ei gyhuddo o ddynladdiad anwirfoddol.
Ddoe penderfynodd barnwr na fyddai’r amddiffyn yn cael galw unrhyw lygaid-dystion i roi tystiolaeth am achos llys Michael Jackson ar amheuaeth o gam-drin plant yn 2005.
Dadleuodd yr erlynydd David Walgren fod cyfreithiwr Conrad Murray yn gobeithio llusgo enw da Michael Jackson drwy’r baw.
“Mae pobol yn ofni y bydd yr achos llys yn troi’n ymosodiad ar Michael Jackson,” meddai David Walgren.
Pe bai Conrad Murray yn euog fe allai dreulio hyd at bedair blynedd dan glo.
Mae’r awdurdodau yn credu ei fod wedi rhoi gorddos marwol o propofol a sedatifau eraill i Michael Jackson yn fuan cyn ei farwolaeth ar 25 Mehefin, 2009.
Pe bai yn fyw o hyd fe fyddai Michael Jackson wedi dathlu ei ben-blwydd yn 53 oed, ddoe.