Y Gweinidog Addysg Leighton Andrews
Mae pryder y bydd swyddi gweithwyr anabl yn y fantol wrth i lywodraeth Prydain ystyried dyfodol naw o ffatrïoedd yr asiantaeth Remploy yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae’r asiantaeth a gafodd ei sefydlu i ddarparu gwaith i bobl anabl yn cyflogi dros 400 o weithwyr ar hyd a lled Cymru.

Er bod adroddiad diweddar yn awgrymu y gallai rhagor o weithwyr anabl gael swyddi yn y farchnad waith agored, dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n gwrthwynebu unrhyw doriadau a fydd yn effeithio ar Remploy.

Meddai’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews: “Mae Remploy yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl anabl ac mae nifer o gymunedau yng Nghymru’n dibynnu ar ffatrïoedd Remploy gan eu bod nhw’n gyflogwr o bwys yn yr ardal.

“Oherwydd hyn, fe fydd Llywodraeth Cymru’n mynd ati’n egnïol i wrthwynebu cau unrhyw ffatrïoedd yn wyneb ein pryder ynghylch yr effaith ar ein cymunedau lleol a’n heconomi.”

Adolygiad

Roedd adolygiad annibynnol Sayce, a gafodd ei gyflwyno i’r Senedd yn Llundain y mis diwethaf, yn argymell y dylai Remploy ganolbwyntio ar helpu pobl i gael gwaith ar y farchnad lafur agored.

Dywed awdur yr adroddiad, Liz Sayce, prif weithredwr yr elusen hawliau anabl Radar, fod y gost o gynnal swyddi Remploy tua £22,700 y gweithiwr.

“Roedd consensws lwyr ymysg mudiadau ac elusennau pobl anabl nad ffatrïoedd Remploy yw’r model ar gyfer yr 21ain ganrif,” meddai.

“Dylai arian y Llywodraeth fod yn cael ei fuddsoddi mewn cymorth effeithiol i unigolion, yn hytrach nag ar sybsideiddio busnesau ffatrïoedd.

“Dylai dyfodol Remploy fod fel sefydliad annibynnol ar y Llywodraeth, yn canolbwyntio ar helpu pobl anabl i gael gwaith mewn amrywiaeth o rolau yn yr economi.”

Mae ei hargymhellion yn cynnwys rhoi’r gorau i ariannu Remploy yn uniongyrchol gan y Llywodraeth, a gwneud yr asiantaeth yn ddibynnol ar ennill gwahanol gytundebau.

Mae Llywodraeth Prydain wrthi’n ymgynghori ar yr adroddiad ar hyn o bryd, ac fe fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Hydref 17.