Adam Jones
Gydag anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae rheng flaen Cymru wedi bod yn fwy o destun trafod i’r cefnogwyr, a mwy o gur pen i’r hyfforddwyr nac erioed wrth baratoi at Gwpan y Byd.
Mae Lisa Thomas yn chwarae fel prop i dimau merched Cwins Caerfyrddin a’r Scarlets, ac wedi ennill cap dros dîm dan 18 Cymru. Hi sy’n dadansoddi penderfyniadau Warren Gatland ar ran Golwg360….
Yn 2009 rheng flaen Cymru oedd un o’r rhai gorau yn y byd. Cafodd Adam Jones, Matthew Rees a Gethin Jenkins eu dewis i fynd ar daith y Llewod i Dde Affrica. Ond mae bod yn aelod o’r rheng flaen yn golygu ei bod hi bron yn anochel eich bod chi’n yn mynd i ddioddef rhyw fath o anaf yn ystod eich gyrfa – yn enwedig wrth herio timau cryf a chorfforol megis Fiji a Seland Newydd yn rheolaidd ar y lefel rhyngwladol. Ond anaml y gwelwch chi’r holl reng flaen yn cael eu hanafu’r un pryd!
Dyma’r union broblem sydd gan Gymru wrth iddynt baratoi i fentro i Seland Newydd i gystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011. Mae Gatland a thîm hyfforddi Cymru wedi penderfynu dewis Adam Jones a Gethin Jenkins, sydd ill dau wedi bod allan gyda chyfres o anafiadau, ar gyfer Cwpan y Byd i frwydro yn erbyn timau megis De Affrica a Fiji yn y grŵp mae pobl yn ei alw’n ‘The Group of death’. Penderfyniad call? Wel, bydd rhaid aros nes 11 Medi pan fydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn erbyn De Affrica, i wybod yn union ateb i’r cwestiwn hwnnw.
Mae dewis Gethin Jenkins i fod yn rhan o’r tîm yn risg gan nad yw wedi chwarae ers iddo gael ei anafu nôl ar ddechrau’r flwyddyn, a methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ond wedi dweud hynny, heb os, Jenkins yw un o’r propiau gorau yn y byd ac fe fydd ei brofiad yn y rheng flaen yn bwysig iawn i Gymru gan fod y bachwr profiadol Matthew Rees allan am 8 i 10 wythnos efo anaf i’w wddf.
Adam Jones yn ôl
Adam Jones yw’r aelod arall o’r rheng flaen sydd heb chwarae llawer o rygbi yn y misoedd diwethaf, eto o ganlyniad i anaf. Cafodd Jones gêm dda yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn diwethaf ac ond iddo beidio â chael ei anafu’n fuan yn y bencampwriaeth fe fydd Adam Jones yn aelod aruthrol o bwysig i garfan Cymru efo’i gryfder a thaclo pwerus.
Roedd sgrym Cymru’n ymddangos yn gryf yn erbyn yr Ariannin dros y penwythnos, llawer gwell nag yn erbyn Lloegr bythefnos ynghynt. Roedd yr Ariannin yn edrych ychydig ar goll wrth iddynt gael eu gwthio nôl – nid rhywbeth wedi arfer ei weld gan dîm sydd â rheng flaen fawr a chorfforol. Er bod Cymru’n haeddu clod am wthio’r Ariannin am yn ôl, rhaid cofio nad oedd yr Ariannin wedi chwarae llawer fel tîm o gwbl ac heb os fe fydd eu sgrym a rheng flaen yn llawer mwy parod wrth iddynt wynebu Lloegr yng Nghwpan y Byd.
Owens yn haeddu ei le
Huw Bennett, Lloyd Burns a Ken Owens yw’r dewis i wisgo crys y bachwr yn Seland Newydd efo Adam Jones, Ryan Bevington a Craig Mitchell fel propiau pen tynn.
Mae Gatland wedi penderfynu cynnwys Ken Owens, y bachwr o’r Scarlets, fel yr unig chwaraewr sydd heb ennill cap yn y garfan. Bydd yn dipyn o her iddo os yw’n ennill ei gap cyntaf yng Nghwpan y Byd wrth iddo fynd wyneb yn wyneb efo bachwyr gorau’r byd megis y chwaraewr o Dde Affrica, Bismarck du Plessis. Ond, mae Owens wedi bod yn chwaraewr pwysig i’r Scarlets ac y mae wedi datblygu i fod yn fachwr cryf iawn dros y tymhorau diwethaf.
Er bod rheng flaen Cymru wedi cael ei effeithio arno gan anafiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n meddwl bod Gatland yn iawn i gynnwys Adam Jones a Gethin Jenkins yn y garfan ynghyd â chwaraewyr llai profiadol ond pwerus a llawn potensial megis Ken Owens a Ryan Bevington. Bydd rheng flaen Cymru, er ddim mor gryf â’r hyn ydoedd yn ôl yn 2009, yn medru cystadlu efo goreuon y byd rygbi…hynny yw os nad ydynt yn cael rhagor o anafiadau! Er gwaethaf eu diffyg amser chwarae dros y tymor diwethaf, bydd profiad Jones a Jenkins yn allweddol er mwyn sicrhau hyn.