Matthew Rees
Mae Matthew Rees, capten y Scarlets, wedi derbyn llawdriniaeth ar yr anaf i’w wddf, ac fe fydd rhaid iddo aros oddeutu 10 wythnos cyn cael chwarae eto, yn ôl hyfforddwr Llanelli, Nigel Davies.

Cafodd Rees ei adael allan o garfan Cwpan y Byd Cymru o ganlyniad i’r  anaf, sy’n gysylltiedig â phroblem gyda disg yn ei gefn.

Y bwriad oedd iddo fod yn gapten ar ei wlad yn y gystadleuaeth os oedd yn holliach.

“Fe aeth y llawdriniaeth yn dda iawn,” meddai Davies, rheolwr y Scarlets.

“Mae Matthew yn teimlo’n iawn ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ar gael i ni o fewn ryw wyth i ddeg wythnos.”

Y gobaith yw y bydd Matthew Rees yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn y Gweilch ar 5 Tachwedd yn y gynghrair Geltaidd.

Yr wythnos ganlynol fe fydd eu hymgyrch Cwpan Heineken newydd yn dechrau yn erbyn Castres.

Bydd Nigel Davies yn falch o gael ei gapten yn ôl yn y garfan ac yn ffit, gan nad yw ei ddirprwy fachwr, Ken Owens, ar gael.

Cafodd Owens ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Dywedodd Davies ei fod yn hapus gyda’r opsiynau ychwanegol sydd ganddo yn safle’r bachwr, sef Emyr Phillips, Craig Hawkins a Kirby Myhill.

Poen Cyson

Yn dilyn y cyhoeddiad na fyddai yn cymryd rhan yng Nghwpan Rygbi’r Byd, datgelodd is-hyfforddwr Cymru, Shaun Edwards, fod Rees wedi bod mewn cryn dipyn o boen.

“Mae’n rhaid iddo gymryd cyngor meddygol. Allwch chi ddim byw fel na. Dydi o ddim yn gallu cysgu, ac mae o mewn poen cyson,” meddai.

“Mae yna bethau pwysicach na rygbi mewn bywyd, ac mae’n rhaid i Matthew roi ei fywyd yn gyntaf.”

Cafodd y bachwr 30 oed nifer o bigiadau i’w wddf er mwyn ceisio lleddfu’r boen yn y gobaith y gallai barhau i chwarae a theithio i Seland Newydd.

Ond roedd rhaid blaenoriaethu iechyd hirdymor Rees yn y pendraw a phenderfynwyd y byddai’n rhaid iddo gael llawdriniaeth er mwyn cywiro’r broblem.