Mae ymchwil newydd yn dangos bod derbyn gwasanaeth Cymraeg ei iaith dal i fod yn broblem yn y maes iechyd.
Ddechrau’r flwyddyn bu’r ymgynghorydd iaith, Elaine Davies, yn holi dros 50 o bobol ar draws Cymru am eu profiadau wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd.
Roedd yr ymatebion yn dangos fod rhaid i gleifion ofyn am wasanaeth Cymraeg, yn hytrach na’i fod yn cael ei gynnig.
“Disgwyliad ar y defnyddiwr i ofyn am y gwasanaeth yn hytrach na bod y darparwr yn gofyn am ddefnydd iaith,” meddai. “Hwnna yw un o’r prif bethau, ei fod e’n fater o hap a damwain, yn dibynnu ar ble r’ych chi’n byw a beth sydd yn digwydd bod ar gael. Does yna ddim cynllunio clir ar lefel ymwybodol yn aml iawn.”
Dywedodd yn ystod cyfarfod ar faes yr Eisteddfod fod nifer fawr o gleifion Cymraeg eu hiaith yn ddiodde’ ddwywaith dan y drefn bresennol.
“Ar y naill ochr yn ddefnyddwyr bregus, heb fawr o rym a phwer yn y berthynas gyda’r sawl oedd yn darparu gwasanaeth iddyn nhw. Ac ar y llaw arall yn siaradwyr iaith leiafrifol, sydd wedi bod yn draddodiadol yn iaith isel ei statws. Maen nhw’n mynd ati i gysylltu gyda’r darparwyr gwasanaeth gyda set isel iawn o ddisgwyliadau ynglŷn â’r hyn sydd yn mynd i fod ar gael iddyn nhw yn y Gymraeg,” meddai.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst