Steve Jobs
Mae’r dyn sy’n gyfrifol am lwyddiant un o gwmnioedd mwya’r byd wedi ymddiswyddo, gan ddweud nad yw ei iechyd yn ddigon da i wneud y gwaith.

Roedd Steve Jobs yn Brif Weithredwr ar gwmni Apple, sydd wedi tyfu a thyfu yn sgil llwyddiant yr iMac, iPod, iPhone, iPod a sawl dyfais arall.

Cyhoeddodd Steve Jobs y byddai yn gadael ei swydd dros dro ym mis Ionawr oherwydd anhwylder meddygol.

Mae’r prif swyddog gweithredol, Tîm Cook, wedi ei enwi yn brif weithredwr y cwmni yn ei le.

Mewn llythyr at fwrdd y cwmni a chymuned Apple, dywedodd Steve Jobs ei fod wedi dweud yn y gorffennol y byddai yn ymddiswyddo os na fyddai yn gallu gwneud y gwaith.

“Yn anffodus mae’r diwrnod hwnnw wedi dod,” meddai.

Mae Steve Jobs wedi gorfod cymryd sawl hoe o’i waith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi goroesi canser y pancreas ac wedi derbyn trawsnewidiad afu.

Roedd Steve Jobs yn un o’r tri dyn sefydlodd Apple yn 1976, gan greu’r Apple II, y cyfrifiadur cyntaf oedd yn boblogaidd â’r cyhoedd.

Mae hefyd wedi bod yn brif weithredwr Pixar, ac fe gynhyrchodd y cwmni’r ffilm Toy Story yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.