Mae clwb rygbi’r gynghrair y Crusaders wedi cyhoeddi eu bwriad i wneud cais am le yn y Bencampwriaeth yn nhymor 2012, ac aros yn Wrecsam.

Mae’r datganiad yn siŵr o leddfu pryderon llawer o’r cefnogwyr wedi mis o ansicrwydd mawr am ddyfodol y clwb fu’n cystadlu yn uwch gynghrair y Super League.

Yn ôl y datganiad mae’r Crusaders wedi sicrhau cefnogaeth Cyngor Wrecsam ac wedi amlinellu cytundeb gyda Phrifysgol Glyndŵr i gael gwneud defnydd o Stadiwm y Cae Ras.

Ffurfiodd ymgyrch ‘SavetheCru’ yn fuan wedi’r cyhoeddiad gan berchnogion y clwb ar ddiwedd mis Gorffennaf na fyddai’r Crusaders yn cystadlu yn y Super League y tymor nesaf.

Mae dros 4,000 o bobl bellach wedi addo cefnogi’r clwb pe baen nhw’n cystadlu yn y Bencampwriaeth – un adran yn is na’r Super League.

Mae 200 o gwmnïau lleol hefyd wedi cynnig eu cefnogaeth a rhai wedi cynnig noddi’r clwb os ydyn nhw’n parhau i chwarae.

“Oherwydd y gefnogaeth aruthrol yr ydym ni wedi ei dderbyn, daeth hi’n amlwg y galla’r clwb barhau i ffynnu yn Wrecsam,” meddai Jamie Thomas, arweinydd ymgyrch ‘SavetheCru’.

“Felly rydym ni wedi cysylltu gyda thîm rheoli presennol y clwb er mwyn trafod cynlluniau i sefydlu clwb ar gyfer y tymor nesaf.”

Ychwanegodd Cadeirydd Clwb Cefnogwyr y Crusaders, Chris Jones mai dyma’r newyddion yr oedden nhw wedi gobeithio amdano.

“Roedd yr holl gefnogwyr yn drist iawn pan gyhoeddodd y clwb eu bod yn tynnu allan o’r Super League, ac roedd hi’n amlwg cymaint oedd y clwb yn golygu i bobl wrth wylio eu hymateb ar ôl y chwiban olaf ddydd Sul,” meddai.

Collodd y Crusaders eu gêm olaf o’r tymor gartref yn erbyn Hull o 18-58, ond fe lifodd y dorf ymlaen i’r cae ar ddiwedd y gêm i ddangos eu diolchgarwch i’r chwaraewyr am eu hymdrech yn ystod y cyfnod cythryblus ers y cyhoeddiad.

Eglurodd Prif Weithredwr y Crusaders, Rob Findlay, y byddai yn rhaid i’r gynghrair rygbi gymeradwyo unrhyw gynlluniau busnes ar gyfer clwb newydd cyn caniatáu iddynt gystadlu yng nghynghrair y bencampwriaeth.

Aeth ati i ddatgan eu bod nhw “eisoes wedi trafod gyda’r perchnogion presennol ynglŷn â diogelu asedau’r clwb”.

“Rydym ni hefyd wedi cynnal trafodaethau cynhyrchiol iawn gyda Phrifysgol Glyndŵr am chwarae ar y Cae Ras a datblygu partneriaeth bellach â nhw.”