George Stowers o Samoa
Mae yna bryder y bydd Samoa yn fygythiad mawr i obeithio Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd Seland Newydd fis nesaf.
Mae Samoa yn yr un grŵp a Chymru, De Affrica, Ffiji a Namibia; ac mae sylwebwyr yn rhagweld mai dyma fydd y grŵp caletaf o’r cyfan.
Heddiw fe enwodd Samoa garfan gref a chanddynt y potensial i ddymchwel rhai o gewri’r gêm. Maen nhw eisoes wedi trechu Cymru yng Nghwpan y Byd 1991 a 1999.
Maen nhw eisoes wedi maeddu Awstralia fis diwethaf ac fe fyddwn nhw’n gobeithio y bydd eu record gref yn erbyn Cymru yn parhau eleni.
Un o chwaraewyr gorau Samoa yw Alesana Tuilagi, sy’n un o bum brawd sydd oll wedi chwarae rygbi rhyngwladol dros Samoa – heblaw am yr ieuangaf, Manu, sydd yn rhan o garfan Lloegr eleni.
Mae nifer fawr o chwaraewyr profiadol ganddynt hefyd. Mae Seilala Mapusua ar ei ffordd i chwarae yn Siapan, ond tan yn ddiweddar mae wedi bod yn aelod allweddol o ganol cae Gwyddelod Llundain.
Mae ei gyd-ganolwr, Eliota Sapolu Fuimaono, yn chwarae i Gaerloyw, ac fe fu’n gyfreithiwr cyn troi at rygbi proffesiynol.
Mae Daniel Leo, yn yr ail reng, yn un arall sydd â phrofiad yn Uwch gynghrair Lloegr ers ei gyfnod â’r Wasps, ac fe fydd prop Toulouse, Census Johnston, hefyd yn wrthwynebydd cryf.
Mae Samoa wedi creu enw i’w hunain am eu harddull uniongyrchol, corfforol ond maen nhw hefyd yn brolio chwaraewr ysgafnaf y gystadleuaeth, sef yr asgellwr David Lemi.
Bydd Samoa yn wynebu Cymru ar 18 Medi ac yn wynebu De Affrica ar 30 Medi.
Carfan Samoa
Blaenwyr: Ole Avei, Maurie Faasavalu, Census Johnston, Filipo Lavea Levi, Daniel Leo, Logovi’i Mulipola, Ti’i Paulo, Anthony Perenise, Manaia Salavea, Mahonri Schwalger, George Stowers, Sakaria Taulafo, Joe Tekori, Kane Thompson, Ofisa Treviranus, Taiasina Tuifua.
Cefnwyr: Kahn Fotuali’i, David Lemi, Johhny Leota, Seilala Mapusua, Eliota Sapolu Fuimaono, Tasesa Lavea, Augustino Poluleuligaga, George Pisi, Tusi Pisi, James So’oialo, Jeremy Sua, Sailosi Tagicakibau, Alesana Tuilagi, Paul Williams