Dean Saunders, hyfforddwr Wrecsam
Huw Ifor sy’n adrodd ar fuddugoliaeth arall i Wrecsam neithiwr.
Dros y penwythnos, fues i heb signal radio, na ffôn na phapur newydd er mwyn cael clywed canlyniad diweddaraf Wrecsam bryd hynny.
Ond braf oedd dod yn ôl at realaeth a darganfod eu bod wedi curo Lincoln, sy’n dîm cryf, o 2-1 oddi cartref.
Roedd neithiwr yn gyfle arall i gryfhau ein safle ar frig y tabl wedi dechreuad gwych i’r tymor.
Ond roedd y gwrthwynebwyr, Tamworth, yn gydradd â ni ar ben yr adran ac yn siŵr o fod yn dipyn o her.
O fewn pum munud roedd Wrecsam wedi cael tair cic cornel ac roedd cyflymder eu chwarae yn creu problemau mawr i’r ymwelwyr.
Er ein goruchafiaeth, gorfu i Maxwell achub Wrecsam gydag arbediad da yn fuan yn y gêm.
Aeth Wrecsam ar y blaen wedi i Callum Reynolds, amddiffynnwr Tamworth, roi’r bêl yn ei rwyd ei hun gyda pheniad celfydd!
Methodd Andy Morrell ddau gyfle cyn hanner amser, un ohonynt yn ergydiad pwerus yn erbyn y trawst.
Cafodd gyfle arall yn fuan wedi’r egwyl i ychwanegu at ei gyfanswm gwych o goliau’r tymor hwn, ond heb lwc.
Trodd y gêm yn un flêr braidd cyn i James Tolley sgorio’i ail gôl mewn dwy gêm gyda thu allan ei droed dde.
Pedair munud yn ddiweddarach fe redodd yr eilydd, Cieslewicz, o’r asgell tua’r cwrt cosbi a tharo’r bel i gefn y rhwyd.
Petai’n gallu efelychu’r math yma o berfformiad yn rheolaidd fe fydd yn gaffaeliad mawr i’r clwb.
Mae ei redeg pwerus yn dychryn amddiffynwyr yn lan ond ar hyn o bryd mae’n wastraffus gyda’i feddiant yn amlach na pheidio.
Prin y gallaf gredu fod Wrecsam wedi cael dechreuad mor wych i’r tymor, ond mae’n rhaid parhau i ganolbwyntio, adeiladu a chryfhau.
Roedd 3,303 o gefnogwyr yn bresennol neithiwr, ac rwy’n siŵr y bydd mwy a mwy yn dod i weld y tîm os fyddent yn parhau gyda’r buddugoliaethau.
Ddydd Mercher neu ddydd Iau fe obeithiwn y bydd ymddiriedolaeth y cefnogwyr yn cadarnhau pryniant clwb pêl-droed Wrecsam. Bydd hynny’n darparu rhywfaint o sefydlogrwydd er mwyn i’r tîm gael parhau i berfformio ar y cae.