Huw Prys Jones yn amau doethineb ymatebion rhai Cymry i erthygl ddiweddar yn y Daily Mail …
Pan fo erthygl mewn papur newydd yn cyfeirio at y Gymraeg fel ‘iaith mwncis’ dw i’n cytuno nad ydi o’n rhywbeth i’w ddiystyru na’i anwybyddu.
Fel y dywed erthygl olygyddol Golwg yr wythnos yma, dyna’r math o agwedd sy’n saff o arwain at fwy o sarhad a sen.
Eto i gyd, rhaid inni fod ar ein gwyliadwriaeth sut ydan ni’n ymateb. Mi allwn ni’n hawdd fod yn torri twll yn ddiarwybod inni’n hunain.
Mae’r awdur yr erthygl yn y Daily Mail, rhywun o’r enw Roger Lewis, yn haeddu cael ei wawdio a’i ddirmygu’n ddidrugaredd. Ac yn sicr mae angen collfarnu gwerthoedd y system addysg a blannodd y fath anwybodaeth a rhagfarn ynddo fel plentyn yng nghymoedd y de.
Ond cyfeirio’r mater at yr Ysgrifennydd Cartref ac at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu fel mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru am ei wneud? Calliwch da chi!
Yn anffodus mae yna ragfarnau eithafol yn erbyn yr iaith yn dal i fod o dan yr wyneb ymysg ambell garfan o Gymry di-Gymraeg, a waeth inni heb â thwyllo’n hunain fod modd cael gwared arnyn nhw trwy eu gwahardd.
Faint o amser y comisiynydd iaith newydd tybed fydd yn cael ei wastraffu’n mynd i’r afael â chwynion am erthyglau o’r fath?
Pwyllo
Bob tro y cawn sylwadau rhagfarnllyd o’r fath – gan gynnwys rhai llawer mwy diniwed yn aml – mae fel petai yna gystadleuaeth ymysg carfan o wladgarwyr/cenedlaetholwyr o ran pwy all ymateb fwyaf eithafol iddyn nhw.
Mi fyddai’n ganwaith callach i bwyllo ychydig cyn rhuthro i gwyno – ac yn sicr cyn gwneud cyhuddiadau o hiliaeth.
Un o’r dadleuon a glywn ni’n aml ar achlysuron fel hyn ydi ‘fyddai peth fel hyn byth yn cael ei oddef petai’n cael ei ddweud am Asiaid…’
Digon gwir … ond ydan ni o ddifrif eisiau mynd i lawr y ffordd honno?
Fydden ni o ddifrif eisiau cyfyngu’r camau y medrwn ni eu cymryd i amddiffyn Cymreictod cymunedau Cymraeg i’r hyn a fyddai’n dderbyniol yng nghyd-destun mewnfudo yn Lloegr?
Does ond angen darllen ymlaen yn yr un rhifyn cyfredol o Golwg i weld llythyr gan Rod Richards sy’n profi’r union bwynt yma.
Mae’n cyhuddo’r Eisteddfod o fod yn hiliol am lwyfannu rhan o un o gampweithiau ein llên, Cyn Oeri’r Gwaed.
Dw i’n siwr mai tynnu blewyn o drwyn y sefydliad Cymraeg ydi unig fwriad Rod Richards – go brin y gallai ei elyn pennaf ei gyhuddo o fod ag obsesiwn am gywirdeb gwleidyddol.
Ond er mor chwerthinllyd ei ddadl, mae’n dangos inni pa mor hawdd ydi hi i’r esgid fod ar y droed arall. A chofio pa mor hoff fu rhai o elynion y Gymraeg, fel y colofnydd Paul Starling o’r Welsh Mirror, o ddefnyddio cyhuddiadau o hiliaeth yn ein herbyn ni.
Y ffaith ydi fod y math o wenwyn oedd yn cael ei hyrwyddo gan Starling a’i debyg yn y Welsh Mirror yn llawer mwy dinistriol na’r lol diweddaraf yn y Daily Mail.
Gwyliadwriaeth
Mae’n rhaid inni fod ar ein gwyliadwriaeth yn barhaus i wrthsefyll unrhyw ymgais i ehangu cywirdeb gwleidyddol yng nghyd-destun yr iaith.
Meddyliwch sut fyddai hi petai sefydliadau fel yr Eisteddfod a’r BBC yn cymryd yn eu pennau i fonitro cynnwys campweithiau llenyddol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n dderbyniol yn wleidyddol.
Cymerwch fel enghraifft yr awdl Cwm Carnedd lle mae’r bardd yn galaru mai ‘neb ond Saeson hinon ha’ sydd ar ôl mewn cymuned wledig Gymraeg.
Dydi o ddim yn cymryd llawer o ddychymyg i feddwl am ryw ben bach gwleidyddol gywir yn gofyn ‘beth petai bardd o Loegr wedi gwneud cerdd debyg yn galaru at y ffaith mai dim ond Indiaid sy’n byw yng Nghaerlŷr bellach?’
Dyna ydi’r math o dwll yr ydan ni’n ei dorri inni’n hunain os na byddwn ni’n fwy hirben wrth drio taro’n ôl yn erbyn ymosodiadau rhagfarnllyd arnom.
Os mai ‘rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar’ mae hynny weithiau’n cynnwys pethau nad ydan ni’n leicio’u clywed.
Ond onid ydi hynny’n ganwaith gwell na byw mewn cymdeithas lle byddai’n beryg bywyd dweud dim byd am neb heb gael y frigâd wleidyddol gywir ar eich cefnau?