Warren Gatland
Dyma’r paratoadau gorau y mae Cymru wedi eu cael erioed cyn Cwpan Rygbi’r Byd, meddai’r prif hyfforddwr, Warren Gatland, ar ôl ail fuddugoliaeth o’r bron.
Ar ôl curo’r Ariannin ddoe, roedd yn honni y byddai’r garfan yn llawn hyder wrth fynd ar yr awyren am Seland Newydd ddiwedd Awst.
Fe fydd yn enwi’r 30 yn y garfan fory ar ôl tair gêm baratoi yn ystod mis Awst – un fuddugoliaeth ac un golled yn erbyn Lloegr a buddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin.
Roedd y tîm mewn cyflwr corfforol da iawn, meddai Gatland, gan ganmol amddiffyn y chwaraewyr a’r ffordd glinigol yr oedden nhw wedi bachu ar eu cyfleoedd.
“Fe wnaeth y chwaraewyr daclo’n galed pan oedd y chwarae’n torri,” meddai. “Yn awr, rhaid i ni wneud mwy o waith ar ein rygbi.”
Doedd sylwebyddion ddim llawn mor ganmoliaethus; roedd Cymru wedi gorfod amddiffyn yn galed am gyfnodau ac roedden nhw ar ei hôl hi o 3-0 nes sgorio dau gais yn hwyr yn yr hanner cynta’.