Di-sgôr oedd hi rhwng Casnewydd a Grimsby yn Uwch Gynghrair y Blue Square heddiw.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn unfed ar ddeg yn y gynghrair gyda phedwar pwynt o dair gêm.
Fe fydd rheolwr y tîm o Gymru, Mark Hudson yn siomedig i beidio sicrhau tri phwynt ar ôl gweld Grimsby’n mynd lawr i ddeg dyn a’i dîm yn methu cic o’r smotyn yn ogystal.
Cafodd Darran Kempson ei yrru o’r maes ar ôl trosedd yn y blwch ar Craig McAllister wedi 77 munud.
Cododd McAllister i gymryd y gic o’r smotyn ond fe’i harbedwyd gan James McKeown yn y gôl i Grimsby.
Hwn oedd pwynt cyntaf y tymor i Grimsby, a Chasnewydd oedd y tîm gorau am y mwyafrif o’r gêm.
Er i Tom Miller, Elliott Buchanan a Danny Rose oll fynd yn agos i’r Cymry bu’n rhaid iddynt setlo am gêm gyfartal yn y diwedd.