Roberts Earnshaw - carreg filltir arbennig
Burnley 1 – 1 Caerdydd

Sgoriodd Robert Earnshaw y 200fed gôl o’i yrfa wrth helpu Caerdydd i sicrhau pwynt oddi cartref yn Burnley heddiw.

Fe sgoriodd ymosodwr Burnley, Charlie Austin wedi dim ond dwy funud o’r gêm – ei drydedd gôl mewn pedair gêm eleni.

Er hynny, fe darodd yr Adar Glas yn ôl pum munud cyn yr hanner wrth i Earnshaw rwydo o chwe llath. 

Fe wthiodd y tîm cartref yn galed am y fuddugoliaeth yn yr ail hanner, ond gôl yr un oedd y canlyniad terfynol.

Burnley’n dechrau’n dda

Dechreuodd Burnley y gêm ar dân a daeth eu gwobr yn fuan iawn. Croesodd yr amddiffynnwr Kieran Trippier i Austin benio i’r rhwyd o chwe llath.

Setlodd yr ymwelwyr wedi’r gôl a daeth Mark Hudson yn agos at lefelu’r sgôr gyda pheniad ond methodd a chanfod y rhwyd.

Daeth Austin a Keith Treacy yn agos at ddyblu’r sgôr cyn i Earnshaw rwydo ar ôl gwaith da gan yr amddiffynnwr Andrew Taylor.

Roedd cyfleoedd i’r ddau dîm wedi’r hanner, y gorau i Burnley a Keith Treacy ond setlo am gêm gyfartal oedd rhaid.

Rheolwr yn hapus

Roedd rheolwr Caerdydd, Malky Mackay yn ddigon hapus â’r pwynt ar ôl y gêm ac yn falch o agwedd ei chwaraewyr.

“Ar y cyfan roedd yn bwynt da ac yn frwydr galed” meddai Mackay.

“Fe wnaethon ni ildio gôl yn gynnar a gorfod bod yn amyneddgar.”

“Nid dyma’r fuddugoliaeth yr oedden ni’n chwilio amdano ond dwi’n hapus ag agwedd fy chwaraewyr i ddal ati i ymladd ar ôl dechrau gwael.”

Clodfori camp

Roedd Mackay hefyd yn falch iawn dros ei ymosodwr ar ôl cyrraedd carreg filltir arbennig.

“Dwi hefyd yn falch iawn dros Earnie. Mae heddiw’n marcio’r ddau ganfed gôl o’i yrfa ac mae’n ddawn ddigon prin sydd ganddo i fod yn y lle iawn ar yr amser iawn.”

“Mae’n gamp ffantastig a dyna’r rheswm y gwnaethon ni ddod ag o nôl yma.”