Abertawe 0 – 0 Wigan

Doedd dim goliau yng ngêm Uwch Gynghrair gyntaf Stadiwm Liberty heddiw wrth i Abertawe fethu sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Wigan.

Bu ond y dim iddyn nhw golli’r gêm wrth i’w cyn chwaraewr, Jordi Gomez ennill cic o’r smotyn wedi 71 munud o’r gêm.

Amddiffynnwr Cymru, Ashley Williams oedd y troseddwr gyda thacl flêr ar Gomez.

Golwr newydd yr Elyrch, Michel Vorm oedd yr arwr i’r tîm cartref wrth iddo arbed yn wych o gic o’r smotyn Ben Watson.

Cyn hynny roedd Abertawe wedi rheoli’r meddiant a daeth eu cyfle gorau i Danny Graham o fewn dwy funud i ddechrau’r gêm ond methodd a manteisio.

Roedd y pwysau wedi bod yn cynyddu ar Abertawe cyn y gic o’r smotyn, a munudau ynghynt roedd Victor Moses a Gomez ill dau wedi taro’r trawst gydag ergydion.

Fe fydd Brendan Rogers yn diolch i’w olwr newydd heno am sicrhau pwynt cyntaf y tîm Cymreig yn Uwch Gynghrair Lloegr.