George North - chweched cais mewn wyth cap i'r Gogleddwr
Cymru 28 – 13 Yr Ariannin
Siomedig oedd y perfformiad, ond bydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn hapus heno ar ôl i’w dîm sicrhau ail fuddugoliaeth o’r bron yn erbyn Yr Ariannin.
Er hynny, roedd yn edrych yn ddigon du ar y tîm cartref am gyfnodau hir yn yr hanner cyntaf.
Tan y bum munud olaf roedd yr hanner yn un hynod o siomedig i Gymru wrth i’w llinellau a sgrymiau fethu i raddau helaeth, ac wrth i’r ymwelwyr reoli’r chwarae.
O fewn dwy funud roedd yr Archentwyr wedi bylchu ddwywaith, a daeth eu cyfle i sgorio’r pwyntiau cyntaf ar ôl yr ail, ond methodd Contepomi y gic gosb gan roi dihangfa i’r Cymry.
Ariannin yn rheoli
Roedd y mwyafrif o’r chwarae yn hanner y Cymry, a’r Archentwyr yn cicio i’r corneli gan fanteisiol ar anallu’r cochion yn y llinellau.
Er hynny, daeth hanner cyfle i Gymru wedi 21 munud wrth i’r chwarae ledu o’r chwith i’r dde gyda Halfpenny’n llechu ar yr asgell. Yn anffodus roedd y bas tu ôl i’r asgellwr a methodd a chodi digon o gyflymder i gyrraedd y gornel.
O’r diwedd daeth pwyntiau cyntaf y gêm toc cyn yr hanner awr – Contepomi’n llwyddo gyda chic gosb diolch i’r postyn caredig. Roedd yr ymwelwyr yn llawn haeddu bod ar y blaen ar ôl rheoli’r meddiant a’r diriogaeth.
Fe allai fod yn waeth i’r Cymry dair munud yn ddiweddarach wrth i faswr y Pumas fethu cic gosb arall.
Dau gais annisgwyl
Roedd y tîm cartref ar chwâl, ond ddwy funud yn ddiweddarach roedden nhw ar y blaen.
Dyfarnwyd sgrym ymosodol i Gymru 30 llath o linell gais eu gwrthwynebwyr.
Er bod y sgrym yn un flêr llwyddodd Tavis Knoyle i godi’r bêl a rhyddhau i Alun Wyn Jones. Pasiodd Jones ymlaen i Dan Lydiate a ryddhaodd i’r wythwr Andy Powell mewn tir agored.
Carlamodd Powell am y llinell i sgorio’i gais gyntaf dros ei wlad, ac ychwanegodd Hook y gic.
O fewn dwy funud roedd Cymru’n sgorio cais arall. Unwaith eto roedd Knoyle yn allweddol yn codi’r bêl yn ddwfn yn ei hanner ei hun, cadw’i ben a phasio i Jamie Roberts.
Cariodd Roberts y bêl cyn rhyddhau George North ar yr asgell. Roedd yn rhediad gwych gan yr asgellwr ifanc a gallai fod wedi sgorio ei hun ond dangosodd ei aeddfedrwydd wrth basio mewn i Alun Wyn Jones sgorio o bum llath.
Ail hanner diflas
Ar ôl 35 munud cyntaf siomedig doedd ond gobeithio y byddai’r ail hanner yn ymdebygu’n fwy i bum munud olaf y cyntaf, ond nid felly y bu.
Roedd yn hanner digon diflas ar y cyfan, er i ddwy gic gosb gan James Hook ymestyn goruchafiaeth y Cymry yn y chwarter awr cyntaf.
Cafodd Lee Byrne gêm siomedig iawn, ac efallai bod ei eilyddio wedi 57 munud yn arwyddocaol wrth i Aled Brew ddod i’r maes gyda Halfpenny’n symud i safle’r cefnwr.
Yn fuan wedyn daeth dau gap newydd i’r maes i Gymru – y mewnwr Lloyd Williams a’r rheng ôl Justin Tupuric yn dod i’r cae yn lle Knoyle a’r capten Martyn Williams.
Diweddglo gwell
Di fflach oedd y chwarae tan y 10 munud olaf a chais yr un i’r timau.
Roedd Cymru’n pwyso 22 yr ymwelwyr gyda naw munud yn weddill. Enillwyd y llinell o dafliad yr eilydd Huw Bennett cyn i’r blaenwyr fynd trwy’r cymalau.
Dangoswyd rhinwedd cael mewnwr â phas cyflym wrth i Lloyd Williams gyflymu’r ymosod gyda phas i Jon Davies o ryc dan y pyst, cyn iddo yntau ddangos dwylo da gan basio nôl i George North oedd wedi mentro o’i asgell. Doedd dim gobaith gan yr amddiffynnwr wrth i’r cawr o asgellwr hyrddio trwy’r dacl i durio.
Roedd Yr Ariannin erbyn hyn wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r chwarae mentrus a welwyd ganddynt yn yr hanner cyntaf.
Yn hytrach, cadwodd y blaenwyr y bêl yn dynn yn y sgarmes wrth yrru tuag at linell gais y Cymry gyda phedwar munud yn weddill. Dymchwelodd y sgarmes ar linell gais y tîm cartref am gais yn ôl y dyfarnwr teledu.
Cic gosb lwyddiannus arall i Hook ddaeth a gêm siomedig i ben, ond mae Cymru mewn llawer gwell siâp nag oedden nhw’n cyrraedd Cwpan y Byd bedair blynedd yn ôl.
Tîm Cymru: Lee Byrne; Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; James Hook, Tavis Knoyle; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Martyn Williams (c), Andy Powell
Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Jonathan Thomas, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Scott Williams, Aled Brew