Andy Powell - cais cyntaf i Gymru
Mae Cymru’n arwain o 14 – 3 yn erbyn Ariannin ar yr hanner.

Tan y bum munud olaf roedd yr hanner yn un hynod o siomedig i Gymru.

Collodd bachwr y cochion, Richard Hibbard ei ddau dafliad cyntaf i’r llinell – arwydd o’r hyn oedd i ddod  yn y safleoedd gosod am weddill yr hanner.

O fewn dwy funud roedd yr Archentwyr wedi bylchu ddwywaith, a daeth eu cyfle cyntaf i roi pwyntiau ar y bwrdd ar ôl yr ail fylchiad.

Methodd Contepomi y gic gosb – dihangfa i’r Cymry.

Ariannin yn rheoli

Roedd y mwyafrif o’r chwarae yn hanner y Cymry, a’r Archentwyr yn cicio i’r corneli gan fanteisiol ar anallu’r cochion yn y llinellau.

Er hynny, daeth hanner cyfle i Gymru wedi 21 munud wrth i’r chwarae ledu o’r chwith i’r dde gyda Halfpenny’n llechu ar yr asgell. Yn anffodus roedd y bas tu ôl i’r asgellwr a methodd a chodi digon o gyflymder i gyrraedd y gornel.

O’r diwedd daeth pwyntiau cyntaf y gêm toc cyn yr hanner awr – Contepomi’n llwyddo gyda chic gosb diolch i’r postyn caredig. Roedd yr ymwelwyr yn llawn haeddu bod ar y blaen ar ôl rheoli’r meddiant a’r diriogaeth.

Fe allai fod yn waeth i’r Cymry dair munud yn ddiweddarach wrth i faswr y Pumas fethu cic gosb arall.

Dau gais annisgwyl

Roedd y tîm cartref ar chwâl, ond ddwy funud yn ddiweddarach roedden nhw ar y blaen.

Dyfarnwyd sgrym ymosodol i Gymru 30 llath o linell gais eu gwrthwynebwyr.

Fel y mwyafrif o’r sgrymiau blaenorol, roedd yn flerwch llwyr ond llwyddodd Tavis Knoyle i godi’r bêl a’i rhyddhau i Alun Wyn Jones. Rhyddhaodd Jones yntau i Dan Lydiate a basiodd i’r wythwr Andy Powell mewn tir agored.

Carlamodd Powell am y llinell i sgorio’i gais gyntaf dros ei wlad, ac ychwanegodd Hook y gic.

O fewn dwy funud roedd Cymru’n sgorio cais arall. Unwaith eto roedd Knoyle yn allweddol yn codi’r bêl yn ddwfn yn ei hanner ei hun, cadw’i ben a phasio i Jamie Roberts.

Cariodd Roberts y bêl cyn rhyddhau George North ar yr asgell. Roedd yn rhediad gwych gan yr asgellwr ifanc a gallai fod wedi sgorio ei hun ond dangosodd ei aeddfedrwydd wrth basio mewn i Alun Wyn Jones sgorio o bum llath.