Jmie Tolley - clincar o gol (Gwefan Wrecsaam)
Lincoln City 1 Wrecsam 2
Fe aeth Wrecsam i frig Uwch Gynghrair y Blue Square – am ychydig oriau o leia’ – wrth ennill gêm galed yn Sincil Bank.
Roedd cefnogwyr Wrecsam hyd yn oed yn cydnabod mai Lincoln oedd orau ond fod arbediadau gan Chris Maxwell, amddiffyn cadarn, a dwy gôl dda wedi cadw’r Cochion yn y gêm.
Mae’n golygu fod Wrecsam ar saith pwynt ar ôl tair gêm tra bod Gateshead a Fleetwood ill dau ar chwech ar ôl dwy ac yn chwarae heddiw.
Ond mae’n golygu hefyd bod Wrecsam wedi ennill dwy gêm oddi cartre’ ar ôl ei gilydd.
Y gôliau
Wrecsam oedd wedi dechrau orau ac fe gawson nhw chwip o gôl ar ôl 27 munud gydag ergyd o’r tu allan i’r bocs gan y chwaraewr canol cae James Colley.
Fe ddaeth Lioncoln yn gyfartal aar yr egwyl cyn i chwaraewr canol cae arall, Jay Harris, guro un dyn a sgorio yn y gornel ar ôl 55 munud i roi’r sgôr allweddol i Wrecsam.
Roedd 159 o gefnogwyr wedi gwneud y daith hir i ddwyrain Lloegr lle’r oedd torf o fwy na 2,000.