Criw sylwebu Sgorio
 Yfory, bydd rhaglen Sgorio yn darlledu’n fyw wrth i’r Bala herio Caerfyrddin ar Faes Tegid ar ail benwythnos tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru.

Dyma’r diweddaraf o’r ddau glwb, gan gynnwys ymateb rheolwyr a chefnogwyr at eu gêmau cyntaf; newyddion y carfannau a gobeithion ar gyfer yr ornest yfory.

Y Bala

Fe gafodd y Bala ddechreuad gwych i’w hymgyrch oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd yr wythnos ddiwethaf wrth iddyn nhw lwyddo i gipio pwynt oddi ar un o’r ffefrynnau i ennill y gynghrair.

“Roedd gen i amheuon cyn y gêm. Roeddwn i’n pryderu y gallai hon fod wedi bod yn grasfa, yn golled drwm,” meddai Colin Caton, rheolwr y Bala.

“Yn eich gêm gyntaf, rydych chi’n gobeithio cael gêm gartref yn erbyn un o’r timau hynny sydd ddim yn broffesiynol llawn amser, felly roedd hwn yn draw anlwcus i ni.

“Yn amlwg, mae’r Seintiau Newydd wedi teyrnasu yn y gynghrair ar y cyfan yn y deng mlynedd ddiwethaf, ac maen nhw’n broffesiynol iawn…felly mae angen gobeithio eu bod nhw yn mynd i gael gêm wael er mwyn cael rhywbeth ohoni.

“Ond mae’n rhaid dweud, roedd o’n berfformiad gwych gan y bois i gyd. Doeddwn i ddim yn disgwyl i ni chwarae mor dda yn eu herbyn.”

Cytuna cefnogwraig y Bala, Hannah Gwenllian, fod y perfformiad wedi bod yn un canmoladwy iawn:

“Roedd yr aelodau newydd o’r tîm yn cyd-chwarae’n dda ac yn chwarae fel uned. Fe wnaeth Conall Murtagh a Mark Jones reoli’r meddiant yng nghanol y cae. Roedd pob un o gefnogwyr y Bala (tua 150) wedi’u plesio’n arw.”

Does dim newidiadau mawr i fod o fewn carfan y Bala ar gyfer y gêm yn erbyn Caerfyrddin, ond fe ddywedodd Colin Caton ei fod yn obeithiol y gall Lee Hunt ddychwelyd o fewn wythnos i ddeng diwrnod. “Mae o’n gwella’n ara’ bach, a methu aros i gael bod yn ffit er mwyn chwarae,” meddai.

O ystyried fod y ddau glwb yma wedi ei chael hi’n anodd y tymor diwethaf ac wedi gorffen yn agos iawn at waelod y gynghrair (Caerfyrddin – 10fed, Y Bala – 11eg), fe all y gêm yfory fod yn arwyddocaol wrth benderfynu pwy fydd yn ymlafnio tua gwaelod y tabl y tymor hwn.

Tybed a yw’r rheolwyr yn gweld hon fel ‘six pointer’, felly?

“Wel, mae pob gem yn ‘six pointer’ erbyn hyn yn fy marn i,” medd Colin Caton, “Mae’r gynghrair yn mynd yn gynyddol gystadleuol a’r timau i gyd yn dechrau cau’r bwlch sydd rhyngom ni a’r timau ar frig y gynghrair. Gall unrhyw un guro unrhyw un ar eu dydd erbyn hyn.”

Sut mae paratoi ar gyfer gêm o’r fath? “Mae ysbryd y tîm yn hollbwysig i ni. Mae gan bob un chwaraewr sydd gennym y dalent unigol, ond mae angen iddynt chwarae fel un os ydynt am lwyddo.”

Gall magu’r ysbryd a’r ethos hwnnw o fewn y tîm fod yn dipyn o gamp i Colin Caton y tymor hwn wedi i gynifer o’i chwaraewyr benderfynu ymadael yn ystod yr haf.

“Roedd hynny’n siom fawr. Fyddai wedi bod yn well gennai petai dim angen dod a cymaint o chwaraewyr newydd i’r clwb. Ond fe benderfynodd lot ohonynt i symud ymlaen i lefydd eraill, a doedden ni methu a chystadlu gyda’r cytundebau roedd clybiau eraill yn eu cynnig.”

“Ond fel ‘na mae hi. O ystyried safon y chwaraewyr yr ydym ni wedi gallu eu harwyddo i gymryd eu lle, rydw i’n hapus iawn gyda’r garfan o chwaraewyr sydd yma nawr.” 

Beth yw’r nod y tymor hwn i glwb pêl-droed Y Bala? “Gorffen mor uchel â phosib. Ond os ydym ni’n realistig, mae’n mynd i fod yn anodd iawn i unrhyw un newydd dorri mewn i’r pedwar uchaf.”

“Y flaenoriaeth gyntaf yw sicrhau ein bod ni’n glir o’r frwydr ar waelod y tabl er mwyn i ni gael chwarae gweddill y tymor heb bwysau.”

Caerfyrddin

Colli oedd hanes Caerfyrddin yn eu gêm gyntaf adref yn erbyn Y Drenewydd o un gôl i ddim. Siomedigaeth felly i dîm Tommy Morgan gan mai dyma’r gêmau sydd angen iddynt gymryd pwyntiau ohonynt os ydynt am oresgyn unwaith eto’r tymor hwn.

Atega Aneurin Jones, cefnogwr lleol brwd, yr ymdeimlad hwnnw. “Siomedig oedd y perfformiad a’r canlyniad dydd Sadwrn diwethaf! O ystyried cryfder rhai o’r timau yn y gynghrair, mae’n hanfodol cymryd gymaint o bwyntiau a phosib o’n gemau cartref, yn enwedig yn erbyn timau sy’n weddol gydradd â ni, fel y Drenewydd.”

Ond, ar nodyn positif, “crëwyd sawl cyfle dydd Sadwrn diwethaf. Os allwn ni gymryd ein cyfleon, fe all pethau wella.”

Roedd y rheolwr, Tommy Morgan yn ddiffuant yn ei ddadansoddiad hefyd.

“Fe wnaethom ni chwarae’n OK, ond roeddem ymhell o fod ar ein gorau. Roedd y gôl yn un sloppy ofnadwy i’w rhoi i ffwrdd. Ac er ein bod ni wedi creu nifer o gyfleoedd y pen arall, wnaethom ni ddim y mwyaf ohonynt.”

Aeth ati i egluro gwraidd y broblem. “Wrth gwrs, rydym ni wedi cael chwaraewyr newydd i mewn, a nifer ohonynt yn chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf dan amodau cystadleuol. Roedd perfformiadau unigol da iawn, ond wnaethon nhw ddim clicio fel tîm ar y diwrnod.”

A beth am y gêm ar ddydd Sadwrn yn erbyn y Bala?

“Mae gan Bala dîm newydd, a nifer o chwaraewyr o safon, ac fe fyddent yn ffefrynnau poeth i’n curo ni ar ôl eu canlyniad yn erbyn y Seintiau. Ond rydym ni am frwydro’n galed, a dwi’n obeithiol y cawn ni rywbeth ohoni,” medd Tommy Morgan.

Cadarnhaodd nad oes neb wedi’u hanafu, ond ei fod o’n “sicr o wneud ambell i newid ar gyfer y gêm nesaf”.

Mae’r ffenestr drosglwyddiadau’n parhau ar agor am bythefnos arall, ac fe ddywedodd Morgan ei fod yn dal i chwilio, oherwydd “mae posib cryfhau mewn ambell safle dal i fod.”

Yn wrthwyneb i Colin Caton, nid yw Tommy Morgan yn credu y dylid galw’r gêm yn erbyn Y Bala yn ‘six pointer’.

“Mi oedd Bala yn agos at y gwaelod y tro diwethaf hefyd, ond mae’n llawer rhy gynnar i fod yn meddwl am bethau felly. Mae’n rhoi gormod o bwysau ar y chwaraewyr. Rhaid i ni ganolbwyntio ar un gêm ar y tro a cheisio cael cwpl o fuddugoliaethau er mwyn dringo’r tabl.”

Ond mae Aneurin Jones yn cydnabod fod y gêm yn mynd i fod yn her iddynt

“Fe fydd Bala oddi cartref yn anodd. Maent wedi gwario tipyn dros yr Haf, a chael canlyniad arbennig yn ei gem gyntaf wrth gwrs. Ond mae Caerfyrddin yn tueddu i wneud yn well weithiau pan maent yn teithio oddi cartref; yn ymddangos heb lawer o obaith, ond yn perfformio’n well na’r disgwyl a chael canlyniad cadarnhaol.”

Ychwanegodd: “Er bod Y Bala’n dîm cryf, rwy’n gweld Caerfyrddin yn chwarae heb ofn, heb bwysau – yn wahanol i gemau cartref – a chael gem gyfartal ar y lleiaf…gobeithio!”

Gofynnwyd i Tommy Morgan beth oedd o’n anelu amdano’r tymor hwn.

“Roeddem ni’n 10fed y tro diwethaf, felly mae angen gwella ar hynny. Byddai’n rhaid i ni fod yn lwcus i fygwth y 6 uchaf, oherwydd mae cymaint o dimau wedi cryfhau. Mae’n mynd yn anoddach pob blwyddyn. “

Guto Dafydd

 Mae’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar Sgorio ar S4C brynhawn Sadwrn; rhaglen yn dechrau am 4.30 a’r gic gyntaf am 5yr p’nawn.