Martyn Williams
Yfory fydd y tro olaf un i Martyn Williams gerdded allan ar faes chwarae Stadiwm y Mileniwm mewn crys Cymru.
I nodi’r achlysur, mae’r blaenasgellwr yn cael y fraint o fod yn gapten ar ei wlad unwaith yn rhagor wedi i Ryan Jones dynnu allan o’r garfan er mwyn arbed ei goes rhag anaf pellach.
Mae’n bosib iawn y gall hwn hefyd fod y tro olaf erioed iddo fod yn gapten ar ei wlad – yn ddibynnol ar yr hyn ddigwyddith yng Nghwpan y Byd – ond yn sicr y tro olaf iddo wneud ar dir cartref beth bynnag.
“Os ydw i’n ei gwneud hi [i Gwpan y Byd] yna dw i’n hollol sicr mai dyna fydd y tro olaf [ i mi chwarae dros Gymru[,” meddai blaenasgellwr y Gleision.
“Dw i’n bendant mai’r gêm ar ddydd Sadwrn fydd fy ngêm olaf un yn Stadiwm y Mileniwm, felly mae hynny’n gyffrous.”
99 cap
Dyma ddiwedd ar yrfa ryngwladol nodedig felly. Bydd Williams yn ennill cap rhif 99 yn erbyn Yr Ariannin yfory, un yn unig y tu ôl i Stephen Jones a Gareth Thomas sy’n dal y record ar gyfer y nifer fwya’ o ymddangosiadau rhyngddynt.
Mae gyrfa Martyn Williams gyda Chymru yn ymestyn dros 15 mlynedd ers iddo ennill ei gap cyntaf i’r tîm hŷn yn 1996. Bu’n bresennol yng ngharfannau Cwpanau Byd 1999, 2003, a 2007 ac fe gafodd ei ddethol yng ngharfannau’r Llewod yn 2001, 2005 a 2009.
Dros ei bymtheng mlynedd yn y crys coch mae wedi sgorio 14 o geisiadau, ac ef sy’n dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros Gymru ym Mhencampwriaethau’r Chwe Gwlad gyda 51 cap, chwech yn fwy na Gareth Edwards, sydd nesaf ar y rhestr.
Ond fe all ei gysylltiad gyda Chymru fod wedi dod i ben llawer cynharach. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o’r gêm ryngwladol wedi Cwpan y Byd 2007. Ond mi lwyddodd Warren Gatland i ddwyn perswâd arno i ddychwelyd y flwyddyn olynol.
Chwaraeodd ran dyngedfennol yn ymgyrch camp lawn Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2008, a chael ei gydnabod fel un o chwaraewyr gorau’r twrnament.
Ei fryd ar Gwpan y Byd
Gall hwn fod yn achlysur emosiynol i Martyn Williams wrth iddo ffarwelio gyda thorf y Mileniwm, ond mae ‘nugget’ – fel mae’n cael ei adnabod – yn dal i fod yn hynod broffesiynol ac yn canolbwyntio ar greu argraff yfory. Ei fwriad yw ennill ei le yn y garfan sy’n teithio i Seland Newydd.
“Mae’n rhaid i mi eisio rhoi perfformiad mawr i mewn,” meddai Williams, sy’n 35 oed.
“Mae yna nifer o’r bois sydd heb gael y cyfle i gychwyn unrhyw un o’r gemau paratoi yma. Felly i nifer ohonom, mae o’n gyfle olaf i greu argraff ac i geisio sicrhau ein bod ni’n cael lle ar yr awyren.”
Bydd Gatland yn cyhoeddi’r garfan o 30 dyn ar gyfer Cwpan y Byd ddydd Llun nesaf, ddeuddydd ar ôl y gêm yn erbyn Yr Ariannin.
Mae Martyn Williams wedi gorfod aros yn amyneddgar iawn i gael ei gyfle. Dyw heb gael chwarae i Gymru ers iddo fod yn eilydd yn erbyn Seland Newydd yr Hydref diwethaf. Ni chafodd ei gynnwys gan Gatland yn y garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.
“Dw i fel batiwr (criced) sydd wedi cael dros 90 o rediadau ac sy’n dechrau mynd yn nerfus am gyrraedd y ganrif,” myfyriodd Williams.
“Yn amlwg, pan rydych chi mor agos â hyn, mi fyddai hi’n grêt cael cyrraedd 100. Os fydd o’n digwydd, gwych. Os ddim, yna dim ots.”
“Dw i wedi cael rhediad eithaf da, ond mi fyddai’n neis cael un arall ar ôl dydd Sadwrn. Dw i just yn falch o gael y cyfle i chwarae. Dw i’n llawn cyffro eto, fel ro’n i cyn i mi gael fy nghap cyntaf un.”
Capten newydd, cenhedlaeth newydd
Un rheswm am ddiffyg cyfleoedd Martyn Williams yw’r ffaith fod Sam Warburton wedi sefydlogi ei hun fel dewis cynta’ Cymru yn flaenasgellwr yn ogystal â chapten.
Warburton sydd wedi bod yn gapten yn y tri phrawf diwethaf yn absenoldeb y bachwr, Matthew Rees.
Dywed Williams amdano: “Mae o wedi chwarae’n wych ym mhob gêm, fel yr oedd o drwy gydol yr hydref diwethaf a’r Chwe Gwlad.”
“Mae gen i sgidiau mawr i’w llenwi yfory, ond fe wnaf fy ngorau. Rydym ni’n chwaraewyr gwahanol, felly mae’n rhaid i mi ganolbwyntio ar fy mherfformiad fy hun.”
“Mae gennym ni rif 7 arall yn dod i’r amlwg, sef Justin Tipuric, ac mae o’n sicr yn mynd i fod yn chwaraewr arbennig hefyd,” meddai Williams am y cnwd nesa’ o flaenasgellwyr rhyngwladol.
“Fe fydd hi’n braf cael eistedd yn ôl yn fy nghadair a gwylio Justin a Sam yn mynd amdani am flynyddoedd i ddod.”
Bydd Cymru’n herio’r Ariannin yfory yn Stadiwm y Mileniwm gyda’r gic gyntaf am 2.30yh.
Guto Dafydd