Mae Maer Llundain yn cefnogi'r cais diweddara'.
Mae’r sefydliad sy’n llywodraethu Athletau ym Mhrydain wedi cyhoeddi y bydd Llundain yn gwneud cais er mwyn cael cynnal Pencampwriaethau Athletau’r Byd yn 2017.

Bydd y cais yn seiliedig ar ddefnyddio’r  stadiwm Olympaidd, ac mae’r llywodraeth ynghyd â maer y brifddinas, Boris Johnson, yn cefnogi’r cais.

Bydd yr Arglwydd Seb Coe yn cyflwyno’r cais yn ystod Pencampwriaethau’r Byd yn Daegu, De Korea ymhen mis. Caiff y lleoliad ar gyfer achlysur 2017 ei benderfynu a’i gyhoeddi ym mis Tachwedd.

“Mae’r IAAF a’r teulu athletau wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau fod y gemau Olympaidd yn darparu etifeddiaeth gadarn ar gyfer athletau ym Mhrydain,” meddai Seb Coe.

“Bydd cais llwyddiannus yn dangos ein diolchgarwch am y gefnogaeth gyson yr ydym wedi ei chael trwy gynnal Pencampwriaethau’r Byd gwych yn Llundain fyddai’n helpu denu mwy o bobl ifanc i’r gamp.”

Roedd Llundain i fod i gynnal y Pencampwriaethau yn ôl yn 2005 mewn stadiwm arfaethedig yn Pickett’s Lock, Edmonton, ond bu rhaid iddyn nhw dynnu allan yn 2001 gan fod eu cynlluniau’n rhy ddrud.

Cafodd y Pencampwriaethau eu cynnal yn Helsinki yn 2005, ac roedd teimlad na fyddai cais arall gan Brydain yn y dyfodol yn debygol o fod yn llwyddiannus am eu bod wedi cynddeiriogi’r corff llywodraethu.

Ond mae’r cais llwyddiannus i gynnal y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf yn golygu fod lleoliad addas ar gael erbyn hyn.