Mae Rhys Pugh, Cymro ifanc 17 oed o Drehopcyn, Pontypridd, wedi ei ddewis yn rhan o dîm Prydain ac Iwerddon ar gyfer y Cwpan Walker.

Ef fydd yr ieuangaf yn y tîm 10 dyn i chwarae yn yr ornest sy’n digwydd pob dwy flynedd yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Mae’r Cwpan Walker yn debyg iawn mewn fformat i’r Cwpan Ryder, ond ei bod yn gystadleuaeth ar gyfer golffwyr amatur gorau Prydain, Iwerddon a’r Unol Daleithiau, yn hytrach na golffwyr proffesiynol.

Bydd Cymro arall, Nigel Edwards, yn cymryd rôl y capten, er na fydd yn chwarae yn Yr Alban lle cynhelir y gystadleuaeth. Ef yw’r trydydd Cymro i gael y fraint honno.

“Dw i mor hapus fy mod i wedi cael fy mhigo i chwarae ochr yn ochr gyda’r holl chwaraewyr talentog yma. Mae’n anrhydedd,” meddai Rhys Pugh wrth y BBC.

Mae’r Cymro ifanc wedi mwynhau cryn lwyddiant yn ddiweddar. Fe fu’n fuddugol ym mhencampwriaeth agored amaturiaid Iwerddon ym mis Mai, ac yn ail ym mhencampwriaeth amaturiaid Cymru ym mis Gorffennaf.

Ef fydd y Cymro cyntaf i chwarae yng Nghwpan Walker ers i Nigel Edwards a Rhys Davies gynrychioli Prydain ac Iwerddon yn ôl yn 2007.

“Dw i wedi cael blwyddyn anhygoel hyd yn hyn. Dw i wedi bod yn chwarae’n dda, ac wedi cael buddugoliaethau wych,” ychwanegodd Pugh, sy’n aelod o Glwb Golff Bro Morgannwg.

“Gobeithio galla i barhau i chwarae’n dda i fyny yn yr Alban.”