Cwpan Webb Ellis - neu un ohonyn nhw, o leia'
Mae trefnwyr Cwpan Rygbi’r Byd wedi cyfaddef am y tro cyntaf fod dau gwpan – yn union yr un fath – yn bodoli.

Dywedodd prif weithredwr Cwpan Rygbi’r Byd 2011, Martin Snedden, fod dau gwpan Webb Ellis gwahanol yn cael eu defnyddio a bod y ddau wedi eu gwobrwyo i dimoedd yn y gorffennol.

Fe aeth cwpan Webb Ellis ar daith o amgylch Seland Newydd yr wythnos diwethaf, a chael ei arddangos mewn 27 tref a dinas ar hyd y daith.

Dywedodd y trefnwyr fod mwy na 11,000 o gefnogwyr wedi bod i weld y tlws a chael tynnu eu llun gydag ef.

Ond yna fe gyhoeddodd y sianel deledu Wyddelig – TV3 – fod y gwpan ‘go iawn’ yn Iwerddon ac yn y broses o gael ei atgyweirio.

Dywedodd Martin Snedden nad oedd y tyrfaoedd oedd wedi heidio i weld y cwpan yn gwastraffu eu hamser, ac mai dyna’r gwpan fydd yn cael ei chyflwyno i’r tîm buddugol ar 23 Hydref.

“Fe allwn ni gadarnhau fod yr holl gefnogwyr wedi cael gweld y cwpan go iawn,” meddai Snedden.

Cynhaliwyd y Cwpan Rygbi’r Byd cyntaf yn 1987, ond cafodd cwpan Webb Ellis ei chreu gan Garrard’s Crown Jewellers yn Llundain yn 1906.

Dywedodd Cwpan Rygbi’r Byd Cyf – is-gwmni i’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol sy’n berchen ar y twrnamaint – fod ganddyn nhw bellach ddau gwpan yn eu meddiant.

“Mae gennym ni ddau gwpan, ond dim ond un sy’n cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg,” meddai cyfarwyddwr y bencampwriaeth Kit McConnell.

“Mae hyn yn arfer cyffredin ymysg pencampwriaethau mawr.

“Mae’r ddau gwpan yn union yr un maint. Does yr un ohonyn nhw’n fwy arbennig neu’n fwy gwreiddiol na’r llall mewn gwirionedd. Cafwyd y ddau eu prynu cyn i’r twrnamaint cyntaf gael ei threfnu, felly maen nhw’n rhannu’r un hanes a’r un traddodiad.

“Mae’r ddau wedi eu defnyddio yn y gorffennol, ac mae’r ddau wedi bod yn nwylo’r capteiniaid buddugol. Mae’r ddau yn cynrychioli ysbryd y gêm yn yr un modd.”