Jonathan Edwards
Ar adeg pan mae Llwydoraeth Prydain yn trafod sefydlu gorsafoedd teledu hynod leol ar gyfer dinasoedd a threfi yng Nghymru, mae Plaid Cymru yn dweud mai sicrhau mwy o arian i ITV Cymru, BBC Cymru ac S4C yw’r flaenoriaeth.

Ddoe roedd Gweinidog Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Prydain  yn lansio cyfres o sioeau arddangos fydd yn teithio gwledydd Prydain yn hyrwyddo’r syniad o deledu lleol.

Ond mae’n digwydd ar adeg pan mae torri’n ôl ar wariant BBC Cymru ac S4C, ac mae  ITV Cymru eisoes wedi gweld cyllid yn prinhau ers blynyddoedd.

Nid dyma’r amser i wahodd ceisiadau i sefydlu gorsafoedd teledu penodol ym Mangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Hwlffordd, Yr Wyddgrug ac Abertawe, yn ôl Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Rhaid i Gymru gael teledu cenedlaethol gwerth ei halen, gyda rhaglenni o safon sy’n ein cynrychioli ni fel cenedl,” meddai Jonathan Edwards o Blaid Cymru.

“Mae hynny’n golygu tarfu ar y torri nôl ar S4C a BBC Cymru ac estyn cyfle i ITV Cymru fedru cryfhau .

“Rhaid i ni barhau i ddatblygu’r lefel bresennol o sylw i newyddion a materion cyfoes Cymreig, sydd dan fygythiad go-iawn oherwydd gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.

“Mae hyn yn bwysig er mwyn cadw golwg ar wleidyddion Cymru a’n democratiaeth.”

Os ddaw’r gwasanaethau teledu lleool i fodolaeth mewn dinasoedd fel Bangor ac Abertawe, mae’n bwysig bod lle i’r Gymraeg, yn ôl Jonathan Edwards.

“Mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd ymysg cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru, ac mae’n rhaid adlewyrchu hynny yn y gwasanaethau maen nhw’n dderbyn ar y teledu.

“Ond er hynny, ein blaenoriaeth yma yng Nghymru yw gwella a datblygu’r rhaglenni newyddion a materion cyfoes presennol yn hytrach na hyrwyddo agenda hanner pan Gweinidog yn San Steffan.”