Nick Ramsay
Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o “lusgo eu traed” dros gynlluniau i sefydlu parthau menter yng Nghymru.
Cyhoeddwyd ddoe fod Llywodraeth San Steffan am sefydlu cyfres o barthau menter yn Lloegr yn y gobaith o roi hwb i’r economi yno.
Bydd trethi is ar fusnesau, llai o gyfyngiadau at ddatblygu a band eang chwim yn yr 13 parth menter newydd.
Y gobaith yw y byddwn nhw’n creu 30,000 o swyddi newydd erbyn 2015.
Dywedodd Nick Ramsay, llefarydd y Ceidwadwyr ar fenter a busnes, fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy er mwyn rhoi hwb i’r sector breifat.
Roedd y ffigyrau diweithdra heddiw yn awgrymu nad oedd swyddi yn cael eu creu i ddisodli’r rheini oedd yn cael eu colli o’r sector gyhoeddus, meddai.
‘Dim cynllun’
“Mae Llywodraeth San Steffan bellach wedi sefydlu pum Parth Menter newydd ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr er mwyn hybu twf economaidd yno,” meddai Nick Ramsay.
“Cafodd y parthau hyn eu cyhoeddi yn ôl ym mis Mawrth. Pum mis yn ddiweddarach mae gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i lusgo eu traed.
“Dydyn nhw heb lwyddo i gynnig unrhyw gynllun er mwyn sefydlu parth menter yng Nghymru, a fyddai yn rhoi hwb i’n heconomi, yn denu buddsoddiad ac yn creu cyflogaeth.
“Os nad yw gweinidogion Llafur yn siapio’u stwmps fe fydd busnesau yn sefydlu eu hunain yn Lloegr yn hytrach na chreu swyddi newydd yma yng Nghymru.
“Mae’r ffigyrau economaidd diweddaraf yn dangos pa mor fregus yw adferiad economaidd Cymru.
“Rhaid ‘r Prif Weinidog roi’r gorau i gwyno am yr amodau economaidd a dechrau defnyddio’r taclau sydd ganddo wrth law er mwyn creu swyddi a thwf yng Nghymru.”
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cartref Cymru, er bod nhw yn trafod parthau menter gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
“Cyhoeddwyd heddiw y bydd yna barthau menter newydd yn Henffordd a Bryste. Mae angen sefydlu rhaid tebyg yng Nghymru,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio gweithio’n adeiladol â Llywodraeth Cymru er mwyn eu datblygu nhw.”