Teyrnged i Huw Ceredig ar ddiwedd Pobol y Cwm 16 Awst
Mae un o actorion enwoca’ Cymru wedi marw yn 69 oed.
Roedd Huw Ceredig yn fwya’ enwog am actio rhan Reg yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar y BBC ond roedd hefyd wedi actio am flynyddoedd ar y llwyfan a’r sgrîn fach.
Roedd wedi actio’r rhan am 29 o flynyddoedd ac roedd hefyd wedi bod mewn dramâu teledu Saesneg enwog, gan gynnwys Heartbeat a Z Cars.
Gardd, rygbi ac Edward H
Roedd yn arddwr mawr, yn gefnogwr brwd i rasio ceffylau a rygbi ac wedi bod yn Gadeirydd ar glwb rygbi Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar adegau, roedd yn ffyrnig ei feirniadaeth o Undeb Rygbi Cymru ac yn teimlo i’r byw pan ddaeth rhanbarth y Rhyfelwyr Celtaidd i ben yn y Cymoedd.
Roedd wedi bod yn diodde’ ers amser oherwydd clefyd siwgr ac wedi siarad am y ffordd yr oedd hynny’n effeithio ar ei olwg.
Ef a’i wraig oedd wedi rhoi arian i gefnogi’r band roc Edward H Dafis ar y dechrau ac ef oedd wedi eu cyflwyno am y tro cynta’ yn Eisteddfod Rhuthun yn 1973.
Roedd yn frawd i’r canwr, Dafydd Iwan, ac i’r Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones, ac yn un o dylwyth diwylliedig y Cilie.
Emyr Wyn yn cofio
Mae rhai o’i ffrindiau wedi bod yn hel atgofion amdano, gan ddweud ei fod yn gymeriad unigryw. “Dim ond un Huw oedd yna,” meddai ei ffrind a’i gyd actor, Emyr Wyn.
“Fe oedd Mr Pobol y Cwm. Roedd pawb yn ei nabod e. Ac roedd pawb yn ei nabod e hefyd yn yr ardal lle’r oedd yn byw, yn Nhrelales – pobol o bob math a phob cefndir..
“Roedd wedi byw bywyd i’r eitha’ a heb fod yn edifar o gwbl am hynny,” meddai. “Roedd e hefyd yn ffrind da ac yn Gymro a chenedlaetholwr i’r carn.”
Tynnu coes
Roedd Huw Ceredig hefyd yn dynnwr coes ac yn cael ei bryfocio’n gyson gan rai fel y canwr Dewi Pws.
Yn ôl un o’r straeon, roedd Huw Ceredig i ffwrdd ar ei wyliau a Dewi Pws wedi prynu clamp o domatos o archfarchnad a’u hongian nhw yn y tŷ gwydr yn Nhrelales … a phan ddaeth Huw Ceredig yn ôl roedd wedi cynhyrfu’n lân o weld ei lwyddiant wrth arddio.
Ei ymateb nodweddiadol oedd bygwth llythyr cyfreithiwr ar unwaith, gyda gwên fawr yn ei lygaid a’i lais.
Dro arall, roedd wedi gadael Pobol y Cwm dros dro a chael rhan yn yr opera sebon arall, Dinas. Pan ddywedodd rhywun y byddai mynd o un sioe i’r llall yn anodd, fe atebodd yn ei lais grafelog, unigryw: “Paid ti â becso, fydda’ i’n shafo marf a fydd neb yn y ’nabod i.”
S4C yn cofio amdano
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, fod pawb yn y sianel yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf â theulu’r actor.
“Roedd Huw Ceredig yn un o wynebau mwyaf cyfarwyddwyr a phoblogaidd S4C o’r cychwyn cyntaf,” meddai.
“Roedd yn actor talentog ac yn gymeriad lliwgar a chynnes. Bu’n llysgennad brwd dros y Gymraeg drwy Gymru gyfan a bydd bwlch mawr ar ei ôl.”
Teyrnged Jill Evans
Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans, hefyd wedi talu teyrnged i Huw Ceredig.
“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Huw Ceredig,” meddai. “Yn Gymro balch a llysgennad gwych dros ei genedl, cafodd Huw yrfa ddisglair fel actor, ac yr oedd yn ysbrydoliaeth i lawer oedd yn ei adnabod.
“Roedd ei ymrwymiad a’i gariad at ei genedl wedi’i adlewyrchu yn y ffaith iddo gael ei wneud yn aelod am oes o Blaid Cymru. Bydd bwlch enfawr ar ei ôl.
“Mae ein cydymdeimlad a’n meddyliau gyda Margaret a’r teulu.”