Les Morrison
Bydd gŵyl Pesda Roc arbennig ei chynnal ym Methesda fis Medi i dalu teyrnged i Les Morrison, y cynhyrchydd, peiriannydd sain a cherddor a fu farw’n gynt eleni.

Mae ‘Pesda Roc’ wedi ei chynnal mewn sawl ffurf dros y blynyddoedd, ond eleni bydd nifer o artistiaid yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol ar 1 – 4 Medi.

Un o’r prif atyniadau fydd Gruff Rhys, canwr y Super Furry Animals sydd bellach hefyd yn rhyddhau ei gerddoriaeth ei hun. Fe fydd yn perfformio yng nghyngerdd gyntaf yr ŵyl yn Neuadd Ogwen ar nos Iau 1 Medi.

Cyfraniad mawr i’r sin

Er bod Les Morrison yn gitarydd a basydd talentog fu’n chwarae i nifer o grwpiau, roedd ei gyfraniad mwyaf i’r sin fel cynhyrchydd a thechnegydd sain.

Roedd ‘Stiwdio Les’ ar stryd fawr Bethesda yn un o ganolfannau pwysicaf y sin gerddoriaeth Gymraeg yn ystod y 1990au – ymysg y rhai fu’n recordio yno roedd Y Cyrff, Steve Eaves, Meic Stevens, Celt, Siân James, Iwcs a Doyle a Bryn Fôn.

Roedd cysylltiad agos rhwng Les Morrison a Gruff Rhys hefyd. Bu’n dechnegydd gitâr i’r Super Furry Animals am sawl blwyddyn gan deithio ledled y byd gyda nhw.

Ar ddiwrnod marwolaeth Les fe dalodd Gruff Rhys deyrnged arbennig iddo ei flog.

“…yr arwr addfwyn ac anturiaethwr yma, a gefnogodd gerddorion ei fro i’r carn. Ymysg ei ddoniau; gŵr, tad, taid, awdur caneuon, cynhyrchydd, cerddor, technegydd sain, cyfarwyddwr, plastrwr, elusennwr, cymwynaswr, rhwydweithiwr o fri, catalyst i newid, pen label recordio, rheolwr stiwdio, athro. Colled anferthol i’w deulu, ei gymuned ac i gymuned fyd-eang o gerddorion. Diolch Les. Bydd byth dy debyg ac fe gofiwn dy garedigrwydd a’th gyfeillgarwch am byth.”

Amserlen lawn

Mae Gruff Rhys wedi cael cyfnod arbennig o brysur ers rhyddhau ei drydydd albwm unigol Hotel Shampoo ynghynt yn y flwyddyn.

Mae’r cerddor o Rachub wedi bod yn teithio’n helaeth gyda’r grŵp arall o Gymru, Y Niwl yn ei gefnogi.

Bydd Y Niwl hefyd yn perfformio ar y nos Iau yn ogystal â Chowbois Rhos Botwnnog.

Mae amserlen lawr iawn wedi ei threfnu gyda llu o artistiaid yn awyddus i dalu teyrnged i’r cynhyrchydd poblogaidd.

Mae’r tocynnau’n £10 ymlaen llaw ac yn £12 ar y drws, ar werth o Fitzpatrick’s Bethesda, Siop Kathy Bethesda, Recordiau’r Cob Bangor, Palas Print Caernarfon a www.sadwrn.com. Mae maes gwersylla ar gael trwy gydol yr ŵyl hefyd.

Manylion llawn Pesda Roc:
Nos Fercher 31 Awst –  Clwb Criced Bethesda
Talwrn i goffau Les ac Iwan Llwyd
gyda pherfformiadau gan Geraint Lovgreen a Twm Morys
Timau Ogwen, Nantlle a Caernarfon
£5 ar y drws

Nos Iau 1 Medi – Neuadd Ogwen, Bethesda
Gruff Rhys
Y Niwl
Cowbois Rhos Botwnnog
Tocynnau £10 o flaen llaw
£12 ar y drws

Nos Wener 2 Medi –  Neuadd Ogwen, Bethesda
Dafydd Iwan

Siân James
Hogiau’r Bonc
Tocynnau

£5 o flaen llaw
£7 ar y drws

Nos Wener 2 Medi – Fitzpatrick’s, Bethesda
Bob Delyn a’r Ebillion
Tocynnau £10 o flaen llaw yn cynnwys pryd o fwyd

Nos Wener 2 Medi –  Clwb Rygbi Bethesda
Yr Ods
Jen Jeniro
Sen Segur

Yucatan
Tocynnau £5

Dydd Sadwrn 3 Medi – Tafarndai Pesda
a Llys Dafydd
Nifer o fandiau a cherddorion
Manylion i ddilyn

Nos Sadwrn 3 Medi – Neuadd Ogwen
Maffia Mr Huws
Geraint Jarman
Celt
The Chillingtons
Tocynnau £6 o flaen llaw
£8 ar y drws

Nos Sadwrn 3 Medi – Clwb Rygbi
Wibidi
Poket Trez

Acid Casuals

Cyrion

Kim De Bills
£5 ar y drws

Dydd Sul 4 – Fitzpatrick’s Bethesda
9Bach
Jaci Williams ac Aaron Elias
Tocynnau £10 o flaen llaw yn cynnwys pryd o fwyd

Nos Sul 4 – Clwb Rygbi Bethesda
Bryn Fôn
Y Bandana

Rhian Mostyn
Tocynnau £7

Maes pebyll ar gael drwy gydol yr ŵyl