Brendan Rodgers
Mae hyfforddwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud nad oedd maint y golled yn erbyn Manchester City yn adlewyrchu pa mor agos oedd y gêm.
Llwyddodd yr Elyrch i gadw Man City allan drwy gydol yr hanner cyntaf ond fe sgoriodd y tîm cartref bedair gôl yn yr ail.
Sgoriodd Sergio Aguero ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i’r dinasyddion, ac fe gyfrannodd Edin Dzeko a David Silva un yr un.
Er gwaetha’r sgôr dywedodd Brendan Rodgers ei fod yn argyhoeddedig y bydd Abertawe yn gadael eu marc ar yr Uwch Gynghrair y tymor yma.
“Roeddwn i’n credu fod y canlyniad – er bod y goliau yn wych – braidd yn llym ar ein tîm ni,” meddai.
“Yn ystod yr awr gyntaf roedd y chwaraewyr wedi dangos fod ganddyn nhw’r hyder a’r sgiliau i gystadlu ac roedden ni wedi bygwth.
“Yn amlwg roedd dwy gôl gyflym wedi rhoi hyder iddyn nhw ac fe ddechreuon nhw reoli’r gêm. Mae ganddyn nhw rai o chwaraewyr gorau’r byd.
“Er ein bod ni wedi dod oddi ar y cae wedi cael ein maeddu 4-0 fe ddywedais i wrth fy chwaraewyr: ‘Llongyfarchiadau ar chwarae pêl-droed deniadol’.
“Rydw i’n falch iawn o’r clwb. Mae’n noson hanesyddol yn ein hanes ni.
“Fe fyddwn ni’n gwella. Rydyn ni’n deall nawr – ac roedden ni’n deall cyn y gêm – fod unrhyw gamgymeriadau ar y lefel yma yn mynd i gael eu cosbi.
“Bydd rhaid i ni adeiladu ar y pethau cadarnhaol yn y gêm yma a mynd amdani eto ddydd Sadwrn.”